A yw gweithio i sefydliad sy’n cyfrannu £1.7 biliwn i’r economi ac yn cefnogi dros 16,000 o swyddi yn apelio atoch chi?
A hoffech chi gael eich “swyddfa” yng nghanol cefn gwlad, y gorau a gewch yn unman, sy’n cynnwys rhai o’r cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid mwyaf amrywiol a welir mewn unrhyw gynefin?
A beth am ofalu am ased cenedlaethol sy’n denu ymwelwyr i Gymru o bob rhan o’r byd, lle ceir 12 miliwn o ymweliadau dydd bob blwyddyn?
Os mai “ie” yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, yna gallai gyrfa gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fod yr union beth yr ydych yn chwilio amdano.
Rydym yn awyddus i gyflogi pobl o sbectrwm eang o gymdeithas, pobl sydd â meddwl agored ac yn edrych tuag allan. Mae angen pobl arnom sy’n barod i edrych ar ffyrdd gwell o ddefnyddio ein coedwigoedd i gwrdd ag anghenion niferus yr oes hon ac i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i elwa arnynt i’r eithaf.
Os ydych yn meddwl mai chi yw’r person ar gyfer y gwaith, beth am ddweud “ie” wrth Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a dod yn rhan o ddatblygu dyfodol cyffrous ar gyfer coetiroedd Cymru?
Trefor Owen, Cyfarwyddwr, Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Llun uwch ben: Trefor Owen

Mae coetiroedd Cymru eich angen CHI!
PDF 135kb
Fedrwch ddod o hyd i fanylion am gyfleoedd cyflogaeth presennol drwy ymweld â'n dudalen recriwtio.
Beth sydd o ddiddordeb
“Mae gweithio yn yr awyr agored yn rhoi boddhad mawr i mi a chyfle i weld ein cefn gwlad syfrdanol o brydferth a chadw’n heini a gweithgar yr un pryd. Mae fy ngwaith fel gweithiwr maes yn heriol ac mae’r rhagolygon ar gyfer datblygu fy ngyrfa yn dda.”
Menna, Gweithiwr Maes Hamdden
Gyrfa Prydain Fawr> (Saesneg Unig)
“Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael yn y Comisiwn, ac mae pob un yr ydw i wedi’i chael wedi cynnig cydbwysedd gwych rhwng gwaith dan do a gwaith yn yr awyr agored. Rydw i’n hoffi’r ffaith fy mod i’n gallu mynd allan i’r goedwig i wneud ymweliadau safle ar ôl bore yn gweithio o flaen y cyfrifiadur. Mae’n anodd rhagweld y dyfodol, ond gallaf fod yn sicr o un peth – bydd yna bob amser gyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa o fewn y sefydliad.” Matthew, Rheolwr Sefydliad
“Pan ymunais â’r CC, fy swydd gyntaf oedd darparu cymorth gweinyddol a gweithio gyda phlant yn y tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu. Ers hynny, gyda chymorth CC Cymru, rydw i wedi cwblhau HNC mewn Rheoli Coetiroedd a Choedyddiaeth ac rydw i bellach yn gweithio fel Swyddog Addysg. Rydw i wrth fy modd efo’r swydd - rydw i’n cael boddhad mawr o weithio gyda phlant, yn yr awyr agored, a baeddu! Rydw i’n credu fy mod i wedi cael hyd i’m lle mewn bywyd o’r diwedd.” Ffion, Swyddog Addysgr
“Rydw i wedi dal nifer o wahanol swyddi o fewn CC Cymru, o grefftwr coedwig a gweithredwr peiriant i oruchwyliwr safle ac yna fforman â chyfrifoldeb dros sawl coedwig. Fe fyddwn i’n dweud mai fy swydd bresennol, sef Rheolwr Coetir sy’n gofalu am goedwigoedd yn ardaloedd Môn a Beddgelert, ydy’r un fwyaf heriol a buddiol hyd yma. I mi, y peth pwysicaf ynghylch gweithio gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ydy’r gwaith tîm a’r gefnogaeth yr ydw wedi’i derbyn. Heb hyn, dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi magu’r plwc i geisio dyrchafiad a datblygu fy ngyrfa.”
Robert, Rheolwr Coetir
"Rwyf wedi cael gyrfa hir ac amrywiol gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, sydd wedi cyflwyno cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau a hefyd rwyf wedi annog a chefnogi eraill o fewn y tîm i symud ymlaen gyda'i gyrfa o fewn y sefydliad. Mae hyn wedi bod o fudd i'r CC ac yn ogystal wedi rhoi i mi deimlad o gyrhaeddiad a balchder yn beth rwy'n ei wneud." Andy, Rheolwr Coetir