|
Coedwigoedd a newid yn yr hinsawdd: Yn wir gyfleus?
Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd, 18 Mehefin 2008
Daeth y gynhadledd un diwrnod hon ym Mae Caerdydd â 100 o wneuthurwyr polisi, ffurfwyr barn ac arbenigwyr newid yn yr hinsawdd at ei gilydd o’r llywodraeth, cyrff anllywodraethol a’r sector preifat. Nod y gynhadledd oedd bwrw golwg fanylach ar rai o’r materion, yr heriau a’r cyfleoedd ynghylch Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru a’r tu hwnt.
Agorodd Jon Owen Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Comisiwn Coedwigaeth Cymru, y gynhadledd a chyflwynodd Elin Jones AC, Gweinidog dros Faterion Gwledig, a roddodd yr araith gyweirnod. Dilynodd Tim Rollinson, Rheolwr Cyffredinol y Comisiwn Coedwigaeth y Gweinidog ac amlinellodd y safbwynt rhyngwladol a gweithredu ar lefel Prydain Fawr. Yna, rhoddodd chwech o arbenigwyr blaenaf y DU gyflwyniadau ar goedwigaeth a newid yn yr hinsawdd yn ystod gweddill y gynhadledd. Cymerwyd ymagwedd ryngweithiol yn ystod y gynhadledd. Gweithredodd Betsan Powys, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru fel meistr y seremonďau a chysylltodd â chynrychiolwyr mewn pleidleisio electronig ar gwestiynau allweddol a gododd yn ystod y diwrnod. Tafluniwyd canlyniadau’r pleidleisiau ar y sgrin ar unwaith a gwahoddwyd i’r siaradwyr wneud sylw fesul un ac yn ystod sesiwn lawn ar ddiwedd y gynhadledd. Fideo Coedwigoedd a newid yn yr hinsawdd: Yn wir gyfleus? (WMV, MP4)
Dogfennau Rhaglen y gynhadledd (PDF, 139kb) Llyfryn cynhadledd coedwigoedd a newid yn yr hinsawdd (PDF, 849kb) Nodiadau siarad y Gweinidog (PDF, 34kb) Crynodeb o’r gynhadledd (PDF, 255kb) Cyflwyniadau (Os nad oes gennych Microsoft PowerPoint, gallwch lawrlwytho PowerPoint viewer am ddim.)
 | Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy: Safbwynt rhyngwladol (PowerPoint, 485kb) (Saesneg yn unig) - Tim Rollinson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Coedwigaeth |  | Rheoli carbon a choedwigoedd (PowerPoint, 1.63MB) (Saesneg yn unig) - Robert Matthews, Arweinydd Rhaglen Ymchwil Coedwigoedd, Biometreg, Is-adran Arolygon ac Ystadegau, Comisiwn Coedwigaeth |  | Gwres Biomas yn y DU (PDF, 3.37MB) (Saesneg yn unig) - Dr Robin Cotton, Wood Energy Ltd |  | Pren am Aur yn yr 21ain Ganrif (PDF, 13.9MB) (Saesneg yn unig) - Craig White, Cadeirydd Wood for Gold a Chyfarwyddwr White Design |  | Carbon Cost-effeithiol (PowerPoint, 8.1MB) (Saesneg yn unig) - yr Athro Colin Price, Economydd Coedwig, Prifysgol Bangor |  | Addasu i newid yn yr hinsawdd: addasu i newid (PowerPoint, 4.8MB) (Saesneg yn unig) - Dr Mark Broadmeadow, Rheolwr Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd, Comisiwn Coedwigaeth |  | Ymdopi â’r 21ain Ganrif: Rôl y coetiroedd (PowerPoint, 1.51MB) (Saesneg yn unig) - yr Athro Chris Pollock (Prifysgol Aberystwyth), Prif Gynghorwr Gwyddonol i Brif Weinidog Cymru |
|
Beth sydd o ddiddordeb
Tudalennau cysylltiedig
Safleoedd defnyddiol
|
 |