Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Coed y Brenin: Mai 23
 

Cwrddom yn y maes parcio i’r gogledd o Ddolgellau am ein cyfarfod cinio picnic cymdeithasol arferol tua chanol dydd. Fel arfer roedd nifer dda wedi dod ynghyd. Trefnwyd yr ymweliad gan Mair Jones ac Iola Davenport a phan oeddem yn barod cerddom i fyny’r dyffryn a chael taith dywysedig (diolch yn fawr iawn i Nia Rowlands) o amgylch yr Abaty yn Llanelltyd. Difyr tu hwnt oedd clywed am hanes yr ardal oddi amgylch a hanes yr Abaty ei hun. Yna aethom i Dy’n y Groes i weld y Pinwydd Douglas trawiadol. Ar y pwynt hwn roeddem yn cwrdd â Ruth Jenkins (Rheolwraig Ardal y Goedwig) a chael gwrando ar gefndir y safle rhagorol hwn. Wedyn aethom i Ganolfan newydd y Goedwig ym Maesgwm lle daeth y prynhawn i ben gyda lluniaeth drwy garedigrwydd y Comisiwn Coedwigaeth.

 

Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy:

Coed y Brenin visitCoed y Brenin visitCoed y Brenin visit


Coed y Brenin visitCoed y Brenin visit

© Les Starling


Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov