
Beth yw'r Ysgol Goedwig?
Proses ysbrydoledig yw'r Ysgol Goedwig sy'n cynnig cyfleoedd rheolaidd i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddatblygu hyder a hunan-barch drwy brofiadau dysgu ymarferol mewn amgylchedd coetir lleol.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n rhedeg amrywiaeth o raglenni Ysgol Goedwig ar draws Cymru. Mae'r holl Swyddogion Addysg yn meddu ar gymhwyster Arweinwyr Ysgol Goedwig Lefel 3 neu mewn hyfforddiant ac yn meddu ar gymhwyster Cymorth Cyntaf cyfredol ac wedi cael archwiliad lefel uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol. (Gwiriad CRB).
Mae Tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu yn cynnal 8-10 o raglenni'r flwyddyn, sy'n amrywio o ran hyd ac mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru. I gael fwy o wybodaeth am raglenni'r Ysgol Goedwig yn eich ardal cysylltwch â'ch Swyddog Addysg leol.
Am ragor o wybodaeth am yr Ysgol Goedwig cysylltwch â'r cydlynydd Ysgol Goedwig Carol Travers neu darganfyddwch mwy drwy'r Grwpiau Clwstwr MAG.
Cynhadledd 10 Mlynedd o'r Ysgol Goedwig yng Nghymru

Canllaw i'r Ysgol Goedwig yng Nghymru
