Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Sgwd-yr-Eira, Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog
 

Spring walk around the waterfalls. Llanymddyfri FD1. Felly, am beth mae’r holl helynt?

A. Sgwd-yr-Eira yw un o atyniadau twristiaeth fwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Mae yn denu tua 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn, sydd wedi eu hatynnu gan brydferthwch yr ardal a’r wefr unigryw o fedru cerdded tu ôl i’r rhaeadr.

2. Swnio’n dda. Pam na fedrant wneud hyn?

A. Peth amser yn ôl, fe dynnwyd ein sylw at y ffaith fod yna rhai creigiau peryglus yn yr ardal. Fe ofynnom ar unwaith i gwmni arbenigol, ARUP i wneud archwiliad ac fe gadarnhawyd ansadrwydd parhaus y clogwyn dynamig yma. Mynegwyd yn yr adroddiad y byddai rhyddhad blociau o graig yn peri perygl a risg o niwed i’r cyhoedd, felly nid oedd gennym ddewis arall ond i gau'r safle.

3. Pam mai’r CC Cymru oedd yn gyfrifol?

A. Rydym yn berchen ar y tir lle lleolir Sgwd-yr-Eira.

4. Felly ble mae CCGC a APCBB yn dod fewn iddi?

A. Mae CCGC yn ymgynghorydd materion amgylcheddol i’r Cynulliad. Saif Sgwd yr Eira o fewn ardal eang o goetir, sydd wedi cael ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA) ac Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA). Mae Ardal Gadwraeth Arbennig yn ddynodiad cenedlaethol, sydd yn dynodi pwysigrwydd yr ardal am gadwraeth natur.

5. Pa effaith mae’r dynodiad yn ei gael ar eich gallu i wneud unrhyw waith i ddiogelu’r safle?

A. Mae AGA yn meddu ar y lefel uchaf o ddiogelwch amgylcheddol dan ddeddf Ewropeaidd. Mae rhaid i unrhyw awgrymiadau a allai cael effaith anffafriol ar y safleoedd gael eu hystyried yn ofalus cyn gellid cael caniatâd i fwrw ymlaen - yn y sefyllfaoedd yma fe ddarperir cyngor gwyddonol gan CCGC.

6. Felly ai dyna hi? Ni fydd pobl yn medru cerdded tu ôl i’r rhaeadr byth eto?

A. Mae hi braidd yn gynamserol i ddweud hynny. Fel tirfeddiannwr cyfrifol mae’n rhaid i ni fod yn fodlon nad oes yna risg i ddiogelwch y cyhoedd, ond rydym am ail agor y safle cyn gynted a bo modd.

7. Yna beth yw’r ffordd gywir i gael caniatâd o CCGC?

A. Fel y tirfeddiannwr ac felly awdurdod gymwys o dan ddeddf Ewropeaidd, mae’n rhaid i ni gario allan "Asesiad Priodol" cyn gall y gwaith o ddiraddio mynd yn ei flaen. Yn yr asesiad fe amlinellir pa un ai fydd y gwaith yn cael effaith andwyol ar fuddiannau cadwraethol y safle neu beidio. Rydym wedi bod yn delio gyda’r materion yma ar y cyd â CCGC. Os fydd yr asesiad yn dangos nad oes yna unrhyw effaith anffafriol yna fydd y gwaith yn medru cael ei wneud. Fodd bynnag, os fydd yna effaith anffafriol yna ni fedrir parhau gyda’r gwaith ac fe fydd yn rhaid i ni fynd yn ôl at APCBB i ofyn iddynt sut maent am fynd ati, gan fod hwn yn hawl dramwy gyhoeddus.

8. Beth chi yn meddwl wrth 'awdurdod gymwys'?

A. Ystyr awdurdod gymwys yn y sefyllfa yma yw'r corff cyhoeddus sy’n ynghlwm â gwneud penderfyniadau ar gynnig sy’n debyg o effeithio ar Ardal Gadwraeth Arbennig.

9. Rwy’n tybio nad yw hyn wedi gwneud CC Cymru yn boblogaidd gyda’r cyhoedd?

A. Mae’n safle ïonig poblogaidd iawn ac roedd cau’r llwybr yn benderfyniad dadleuol iawn. Fodd bynnag, gwnaeth y poblogrwydd yma cyfnerthu’r angen i ni gymryd camau pendant a chyda diogelwch y cyhoedd blaenaf yn ein meddyliau, nid oedd gennym unrhyw ddewis. Rydym yn sensitif i ymateb y cyhoedd i hyn ond ni allwn wneud dim oherwydd y gyfraith amgylcheddol. Fel tirfeddiannwr nid oes dim fedrwn ei wneud yn gyfreithiol ar y safle yma. Wrth gwrs dim ond un o’r rhaeadrau yn yr ardal eang yw Sgwd yr Eira ac mae'r rhan fwyaf o’r rhwydwaith rhaeadrau a’r hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau eraill yn dal ar agor i’r cyhoedd eu mwynhau.

10. Beth yn union yw’r broblem gyda’r safle?

A. Fe wnaeth adroddiad arbenigwr a gomisiynwyd gennym ddynodi prosesau naturiol sydd yn digwydd ar y safle. Mae tryddiferiad dŵr lleol, cypledig gyda’r effaith o hindreuliad, gwaith rhewi-dadlaith a threiddiad gwraidd i gyd yn ffactorau cyfrannol i ansadrwydd yr ardal, creu risg go iawn o greigiau’n cwympo o’r clogwyn.

11. Onid oes yna ateb cyfaddawdol i’r broblem?

A. Yn yr hir dymor, rydym yn edrych ar y posibiliadau o adeiladu pont ger y rhaeadr i sicrhau fod ymwelwyr yn medru dal ati i groesi’r Afon Hepste. Fodd bynnag gallai hyn gymryd nifer o flynyddoedd i’w gwblhau.



Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Clive Davies, Swyddog Gwybodaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Ffôn: 0845 6040845
Ebost: clive.davies@forestry.gsi.gov.uk


Beth sydd o ddiddordeb
Datganiad gan CCGC - 31/03/08.

Sgwd yr Eira (pdf, 36kb, 2 tudalen)

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov