Prif Weinidog Cymru'n Cyhoeddi Oes Newydd Ar Gyfer Ynni Adnewyddadwy
Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig ar y 25 Hydref 2007 yn ymgyrch Cymru i gynyddu ynni adnewyddadwy wrth i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, gyhoeddi oes newydd yn natblygiad ffermydd gwynt. Mae tir a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth i’w osod ar brydles ar gyfer adeiladu tyrbinau gwynt i gynyddu cyfraniad Cymru i wrthwneud y newid yn yr hinsawdd, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth ddigwyddiad ynni cynaliadwy Fforwm Cymru ar Ewrop yn Abertawe. Dywedodd y bydd y cynigyddion a gaiff eu dewis bellach yn cael eu gwahodd i ddatblygu ffermydd gwynt mewn ardaloedd addas o goedwigoedd sy’n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n golygu y gallai’r cynigyddion a ddewiswyd, fynd ymlaen wedyn i wneud cais am ganiatâd cynllunio i godi tyrbinau gwynt ar y tir pe baent yn derbyn yr opsiynau. Pe baen nhw’n cael caniatâd cynllunio, byddai’r opsiwn yn trosi’n gytundeb prydlesu. Nid yw’r cyhoeddiad yn rhan o’r broses gynllunio, ac ni chaiff ei benderfynu gan Lywodraeth y Cynulliad. Bydd angen i ddatblygiadau ffermydd gwynt uwch na 50MW fel y rhain gael caniatâd cynllunio oddi wrth Adran Menter Busnes a Diwygio Rheoleiddiol, yr Adran Masnach a Diwydiant gynt, a bydd rhan fawr gan yr awdurdod lleol wrth benderfynu ar hyn. Meddai Prif Weinidog Cymru: "Y newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf mae’r byd yn ei hwynebu, ac mae penderfyniadau anodd gennym. Mae gweithredu dros y deng mlynedd nesaf yn hollol hanfodol. Mae ynni gwynt yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sy’n fasnachol hyfyw ar raddfa fawr ac mae ein tywydd a’n daearyddiaeth fan hyn yng Nghymru’n golygu ein bod mewn lle da i’w ddefnyddio. "Rydyn ni eisiau annog ynni gwynt ac nid oedd ond yn iawn i ni asesu posibiliadau cael ffermydd gwynt ar ardaloedd addas o dir y Comisiwn Coedwigaeth sy’n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd cynigyddion, sydd wedi’u hasesu’n ofalus am eu hymroddiad i ynni adnewyddadwy a’r cymunedau lleol, yn cael eu gwahodd yn awt i lofnodi cytundebau opsiwn yn eu galluogi i wneud cais am ganiatâd cynllunio. "Nid yw’n sicrhau y bydd y datblygiadau’n digwydd a bydd pob cynnig yn destun archwiliad trylwyr fel rhan o’r broses gynllunio nad oes gennym rôl statudol ynddi. "Rwy’n eithriadol o ymwybodol o’r drafodaeth ar ffermydd gwynt a hoffwn sicrhau pobl y bydd yr holl ddatblygiadau’n wynebu’r prosesau annibynnol arferol o caniatâd cynllunio. Ond hefyd rwyf i eisiau pwysleisio bod rhaid i ni fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a bod rhaid i ni dderbyn bod pŵer gwynt yn hanfodol yn ein hymgyrch i gynhyrchu mwy o drydan o ffynonellau adnewyddadwy." Nodwyd safleoedd ar gyfer datblygiad posibl ffermydd gwynt ar dir y Comisiwn Coedwigaeth sydd yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol. Cyhoeddwyd yr Ardaloedd Chwilio Strategol yn TAN 8, canllaw Llywodraeth y Cynulliad ar ynni adnewyddadwy yn 2005, ac mae proses dendro wedi bod yn barhaus. Mae cyhoeddiad heddiw’n dilyn dadansoddiad manwl o allu pob cynigydd i gyfrannu at dargedau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ynni adnewyddadwy o a faint o fanteision ehangach y gallent eu cynnig. Nodiadau Mae manylion llawn am y broses dendro ar gael ar y tudalennau ffermydd gwynt. Mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle i gynhyrchu incwm blynyddol ychwanegol o hyd at £4 miliwn dros ei einioes 25 mlynedd ar gyfer prosiectau yn y gymuned. Gallai manteision o’r fath gynnwys: • Manteision ar ffurf nwyddau ar gyfer adeiladu cyfleuster cymunedol. • Cyfandaliad ariannol er lles y gymuned. • Taliadau blynyddol i’r gymuned. • Ymroddiad gan y datblygwr i ddefnyddio gweithwyr lleol a neu gontractwyr a gwasanaethau lleol lle bynnag y bo modd. Mae’n rhaid trafod y manteision hyn â chorff neu ymddiriedolaeth sy’n rheoledig ac wedi’i sefydledu yn iawn, a’u sianelu trwyddynt (gallai hyn gynnwys yr awdurdod lleol) a’u defnyddio ar gyfer ystod gytunedig o ddefnyddiau priodol oddi mewn i ddiffiniad datblygiad cynaliadwy. Mae TAN8 yn nodi y dylid buddsoddi o leiaf rhan o unrhyw dâl blynyddol mewn camau lleihau gollyngiadau carbon yn y gymuned leol. Roedd yn ofynnol i’r cynigyddion llwyddiannus roi datganiad penodol i bob Ardal Chwilio Strategol (ACS), am eu cynigion manwl ar gyfer darparu manteision cymunedol dros gyfnod y datblygiad a dangos sut mae’r rhain yn ateb y meini prawf hyn. Hefyd gofynnwyd iddynt ddisgrifio sut maen nhw’n diffinio cymunedau lleol: sut maen nhw’n bwriadu ymwneud â nhw a sut bydden nhw’n ymgorffori barn ac adborth rhanddeiliaid cymunedol lleol yn eu cynlluniau. Defnyddiwyd Canllawiau Arfer Gorau ar gyfer Ymgynghori Cymunedol Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain wrth asesu rhan hon eu cynigion. Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisïau coedwig ac sy’n gofalu am y 110,000 hectar (272,000 erw) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nododd TAN 8, canllaw Llywodraeth y Cynulliad ar ynni adnewyddadwy, saith ACS y dylid lleoli datblygiadau mawr ynni gwynt ynddynt. Yna asesodd y Comisiwn Coedwigaeth y tir maent yn ei reoli yn yr ACS a dechreuwyd proses i ganiatáu "Opsiynau i Ddatblygu". Mae TAN 8 yn dweud bod rhaid i o leiaf 800MW gael ei gynhyrchu o ffermydd gwynt newydd ar dir sych yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol erbyn 2010. Yn y ddogfen Un Gymru, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo i adolygu o TAN 8, yn adolygu’n uwch y targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy o ystod o ffynonellau. Mae rhaglen y Comisiwn Coedwigaeth ar ei phen ei hun yn cynnig 945MW, a all, o gael caniatâd cynllunio, gyfrannu i’r targedau diwygiedig. Mae’r ACS yng: Nghoedwig Clocaenog Gogledd Carno De’r Drenewydd Nant y Moch Pontardawe Coed Morgannwg Coedwig Brechfa
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Anne Jones ar 029 2089 8558 neu Alan Morris ar 029 2082 1870.
|