Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Llwybr Derwen, Coedwig Brechfa
 

Launch of the new Derwen family cycle trail at Brechfa Forest. Llanymddyfri FDCefndir/cyd-destun

Mae gan goedwigoedd a choetiroedd Cymru enw da am ddarparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer beicio mynydd. Bydd beicwyr profiadol yn tyrru yma i brofi’r wefr o feicio i lawr y gelltydd serth, a chynhelir sawl digwyddiad gyda’r gorau yn y byd ar lwybrau pwrpasol Comisiwn Coedwigaeth Cymru bob blwyddyn. Ond gall y teulu cyfan fwynhau beicio mynydd, ac mae’r llwybr newydd yng Nghoedwig Brechfa yn sir Gaerfyrddin wedi’i greu’n arbennig ar gyfer beicwyr mynydd llai profiadol.

Disgrifiad/pam

"Mae llwybr Gwyrdd Derwen wedi’i enwi ar ôl y coetir derw y mae’n rhedeg drwyddo,

ac mae’n cynnig cyflwyniad unigryw i feicio mynydd. Mae’r cyfuniad o ddringfeydd graddol a disgyniadau llawn hwyl ynghyd â’r cyfle i fwynhau golygfeydd gwych eisoes yn boblogaidd.

Mae ein llwybr teulu newydd yn dilyn yr un patrwm â llwybr Coch Gorlech, llwybr mwy heriol a agorwyd ym mis Awst 2006, ond mae popeth yn haws yma. Y syniad yw rhoi cyfle i bobl deimlo sut y mae’r llwybr yn gweithio, gyda throadau ar oleddf, a ‘childroadau gradd’ sy’n rheoli cyflymder drwy gyfrwng incleiniau a disgyniadau. Mae hyn yn swnio’n dechnegol iawn, ond mae wedi cael ei gynllunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd, i’w galluogi i fwynhau’r coetir a chael ychydig o ymarfer yr un pryd.

Mae llwybr Derwen yn cynnwys dau drac – un ar gyfer y dechreuwr llwyr sy’n meddu ar sgiliau beicio sylfaenol. Gall ôl-gerbydau hefyd ddefnyddio rhai rhannau ohono. Ar ôl meistroli’r trac hwn, gellir rhoi cynnig ar y trac canolraddol Glas, lle ceir rhannau untrac a adeiladwyd yn arbennig ac sy’n rhoi cyfle i’r beiciwr brofi’r wefr o feicio mynydd.

Roedd Coedwig Brechfa unwaith yn un o fannau dirgel Cymru, gyda’i golygfeydd dramatig a dyffrynnoedd serth. Rydym wedi clirio rhannau o’r goedwig er mwyn manteisio i’r eithaf ar y dirwedd naturiol sy’n addas ar gyfer beicio mynydd ac rydym wedi darparu mynediad ar gyfer y beiciwr mynydd mentrus yn ogystal â’r teuluoedd hynny sy’n mwynhau’r awyr agored."

Prosiectau yn y dyfodol

"A ninnau bellach wedi darparu llwybrau ar gyfer teuluoedd a beicwyr profiadol, bydd ein llwybr olaf drwy Goedwig Brechfa, sef y llwybr Du, a agorir yn fuan, yn gwthio ffiniau beicio mynydd i’r eithaf ac yn cynnig her dechnegol a chorfforol sylweddol. Mae’n ymddangos bod y llwybrau hyn eisoes yn hwb i’r gymuned ac yn rhoi cyfle i’r bobl leol fwynhau’r gweithgaredd awyr agored gwych hwn."




Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov