Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Cwm Rhaeadr
 

Cwm Rhaeadr forest walk. Llanymddyfri FDY Cefndir/Cyd-destun

Mae pobl Cil-y-cwm, Shir Gâr, wedi mwynhau gelltydd hyfryd Cwm Rhaeadr gerllaw erioed ond gan fod y llwybrau yno’n hen ac angen eu gwella, nid oedd pawb yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cwm hardd ac anghysbell hwn.

Disgrifiad/Pam

Cysylltydd Cymdeithas Gymunedol Cil-y-cwm ag Ardal Llanymddyfri, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ar ôl llwyddo i gael grant o £140,000 gan Cydcoed i wneud gwaith yng nghoetiroedd Cwm Rhaeadr. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y grant ardderchog hwn, buom yn cydweithio’n agos ag aelodau’r Gymdeithas i wireddu eu cynlluniau.

Er mwyn creu llwybr beicio mynydd, roedd yn amlwg y byddai angen teneuo’r coetiroedd i ddechrau. Gan y byddai hyn wedi defnyddio llawer o’r grant, fe benderfynon ni symud ymlaen yn gynt na’r disgwyl â’n gwaith cynaeafu ac fe gliriwyd coridor trwy’r coed. Ni fydd angen rhagor o waith cynaeafu am ddeng mlynedd ac fe wnaed y gwaith mewn ffordd sy’n golygu na fydd angen llawer o waith cynnal a chadw. Felly, bydd yr ymwelwyr yn cael llonydd i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd ardderchog. Erbyn hyn, gall beicwyr mynydd fwynhau’r llwybr cylchol newydd pedair milltir o hyd – dwy filltir a hanner ohonynt yn llwybr un trac a gafodd ei gynnwys yn ras ‘endurance’ TransWales 2006.

Rydym wedi creu llwybr troed cylchol pob-gallu hefyd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr sy’n mwynhau cerdded. Mae hwn yn addas ar gyfer pobl o bob oed, rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a phlant bach mewn bygis. Aed ati i wella’r llwybr sy’n dilyn llawr y dyffryn hyd at raeadr Nant-y-Rhaeadr hefyd. Bydd pobl sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt wrth eu bodd â’r ddau bwll newydd a bydd gwell cysylltiad marchogaeth o’r goedwig i lwybr ceffylau Mynydd Mallaen.

Erbyn hyn, ceir cymaint os nad mwy o lwybrau yng Nghwm Rhaeadr ag a geir mewn unman arall yn yr ardal ac mae’r cynlluniau i hybu twf coed llydanddail naturiol yn golygu ei fod ymhlith y coetiroedd harddaf a mwyaf amrywiol i ymweld â nhw.

Prosiectau i ddod

"Trwy gyfuno’n gwybodaeth a’n sgiliau coedwigaeth ni a brwdfrydedd y gymuned leol, rydyn ni wedi cael canlyniadau ardderchog yng Nghwm Rhaeadr. Gobeithio y gallwn barhau â’r gwaith mewn llawer o lefydd eraill ledled Cymru yn y dyfodol."




European logo

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov