Ym mis Ionawr 2007, cychwynnodd PC 3753, Andrew Scourfield, ar secondiad o dair blynedd i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae’n swyddog gweithredol ac yn rhan o Gymunedau a Phartneriaethau, adran K’. Bydd yn gweithio o swyddfa ranbarthol Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn Resolfen, Castell-nedd dros gyfnod y secondiad.
Hanes
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn Ne Cymru wedi gweld cynnydd mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei diroedd drwy ranbarth De Cymru. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn Ne Cymru yn gweld mwy o droseddau nag unrhyw ranbarth coedwig arall yn y DU. Mae cymunedau lleol wedi codi’r mater sawl tro yng Nghyfarfodydd Ymgynghorol y Comisiwn Coedwigaeth, a cheir rhai ardaloedd nad yw’r cyhoedd yn barod i fentro iddynt.
Yn ystod 2005-06, bu PC Scourfield ar secondiad cychwynnol o chwe mis er mwyn ymchwilio i hyd a lled troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar diroedd y Comisiwn Coedwigaeth. Argymhellwyd yn yr adroddiad dilynol y dylai aelod o’r heddlu gael ei secondio’n barhaol i’r Comisiwn Coedwigaeth. Derbyniwyd yr argymhelliad gan uwchswyddogion Heddlu De Cymru, ac mae hyn wedi arwain at ail secondiad.
Rhanbarth De Cymru y Comisiwn Coedwigaeth
Mae’r rhanbarth yn cwmpasu 120 milltir sgwâr o dir a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth, neu 32,000 hectar. Dyma’r goedwig drefol fwyaf yn Ewrop ac mae’n ymestyn o Ben-bre yn Sir Gaerfyrddin i Dorfaen yng Ngwent. Mae tri heddlu yn gwasanaethu’r ardal hon, sef Heddlu Dyfed Powys yn y Gorllewin, a Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn y Dwyrain.
Mae’r rhan helaethaf o’r rhanbarth yn dod o fewn ffiniau Heddlu De Cymru. Yn wir, mae gan rai adrannau fwy o ardal goedwig i’w gwasanaethu nag unrhyw sir yng Nghymru a Lloegr, er enghraifft, tir y Comisiwn Coedwigaeth yw 33% o dir adran G’, ac 20% o Adran A’.
Troseddau
Nodwyd bod pymtheg gwahanol fath o droseddau yn cael eu cyflawni ar dir y Comisiwn Coedwigaeth drwy Dde Cymru. Dyma’r rhai mwyaf cyffredin: tresbasu mewn cerbydau, difrod troseddol, llosgi bwriadol (tanau mewn coedwigoedd), troseddau yn ymwneud â cherbydau, dwyn, tipio anghyfreithlon, troseddau rhywiol, cuddio cyffuriau a hela ceirw gyda chŵn a reifflau pwerus.
Mae llawer o bobl o dan yr argraff mai troseddau yn ymwneud â bywyd gwyllt yw troseddau coedwig at ei gilydd, ond nid yw’r troseddau hyn ond cyfran fach ohonynt. Mae’n debyg mai hela ceirw a baetio moch daear yw’r troseddau bywyd gwyllt mwyaf cyffredin ar dir y Comisiwn Coedwigaeth.
Prif rolau a chyfrifoldebau’r Swyddog Troseddau Coedwig
- Casglu a datblygu gwybodaeth am droseddau coedwig
- Cynnal patrolau amlwg ar droed neu feic mynydd neu mewn cerbyd
- Canfod pa unedau o’r heddlu neu asiantaethau o’r tu allan yw’r rhai mwyaf addas ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau neilltuol
- Cysylltu â gweithio’n agos â swyddogion gorfodi o bartner asiantaethau, er enghraifft, swyddogion gorfodi Asiantaeth yr Amgylchedd a swyddogion gorfodi gwastraff yr Awdurdod Lleol.
- Cynllunio a gweithredu camau gorfodi a gwyliadwriaeth gudd gan yr heddlu a gwahanol asiantaethau
- Cynghori staff y Comisiwn Coedwigaeth ynghylch atal troseddau a deddfwriaeth droseddol
- Cynorthwyo, cynghori, a chydweithio ag unedau heddlu lleol i fynd i’r afael â throseddau coedwig
- Codi ymwybyddiaeth o droseddau coedwig drwy’r cyfryngau lleol a chenedlaethol
- Datblygu rhwydwaith o gynlluniau ‘Gwarchod Coedwigoedd’ drwy Dde Cymru er mwyn elwa i’r eithaf ar wybodaeth a chudd-wybodaeth
Gwarchod Coedwigoedd
Cynllun gwyliadwriaeth yw ‘Gwarchod Coedwigoedd’ sy’n cael ei redeg ar yr un egwyddor â’r cynllun Gwarchod y Gymdogaeth. Mae cynllun peilot yn cael ei gynnal yn adran G’ ar hyn o bryd, ac mae ganddo 30 o aelodau hyd yma.
Nod y cynllun Gwarchod Coedwigoedd yw annog aelodau o’r cyhoedd i roi gwybod am droseddau a digwyddiadau amheus ar dir y Comisiwn Coedwigaeth er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am droseddau coedwig.
Mae’r cynllun Gwarchod Coedwigoedd eisoes yn llwyddiant a’r bwriad yn awr yw datblygu rhwydwaith o grwpiau Gwarchod Coedwigoedd drwy Dde Cymru, gyda phob grŵp yn bwydo gwybodaeth a chudd-wybodaeth i’r Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol.
Dyma beth gwybodaeth a chudd-wybodaeth a gafwyd drwy gyfrwng y cynllun Gwarchod Coedwigoedd:
- Dod o hyd i fan nwyddau wedi’i llosgi a’i chuddio yn y goedwig o fewn 24 awr. Roedd y cerbyd hwn wedi cael ei ddefnyddio yn ystod ymosodiad difrifol pan gafodd gŵr ei anafu yn ei wyneb â bwyell.
- Dod o hyd i dipwyr anghyfreithlon cyson sydd hefyd yn gysylltiedig â throseddau mwy difrifol megis gwerthu cyffuriau dosbarth A a throseddau yn ymwneud â cheir.
- Hela anghyfreithlon a hela ceirw yn anghyfreithlon gyda chŵn a drylliau
- Mannau poblogaidd ar gyfer gyrru cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn anghyfreithlon a chael gwared â cherbydau wedi’u dwyn.
- Mannau anghysbell o fewn y goedwig lle eir â cherbydau wedi’u dwyn er mwyn tynnu’r cydrannau ohonynt
O ganlyniad i’r gudd-wybodaeth a gasglwyd eisoes, llwyddwyd i gynnal sawl ymgyrch gan gynnwys:
- Ymgyrch Aylesbury - ymgyrch ar y cyd gan nifer o asiantaethau, gan dargedu ardaloedd penodol a gysylltir â gyrru-oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon. Yn sgil yr ymgyrch hon, rhoddwyd ugeiniau o rybuddion adran 59, arestiwyd nifer o bobl ac atafaelwyd nifer o gerbydau.
- Ymgyrch Gwastraff – Ymgyrchoedd atal ac archwilio amlwg gan yr Heddlu ac Asiantaeth yr Amgylchedd, i dargedu cludwyr sydd heb eu cofrestru ac i geisio atal eraill rhag tipio’n anghyfreithlon. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi arwain at nifer o erlyniadau gan Dîm Troseddau Asiantaeth yr Amgylchedd dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd.
- Ymgyrch Acheron – Ymgyrch gwyliadwriaeth gudd gan yr Heddlu ac Asiantaeth yr Amgylchedd i dargedu ceir wedi’u gadael a thipwyr anghyfreithlon sy’n defnyddio’r coedwigoedd yn Nyffryn Afan. Arestiwyd dau o bobl.
- Ymgyrch Pablo – Adran Farchogaeth yr Heddlu yn patrolio’n amlwg yn y coedwigoedd.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu os oes angen cyngor neu gymorth arnoch mewn perthynas â throseddau coedwig peidiwch â phetruso rhag cysylltu â PC Andrew Scourfield yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Troseddau Coedwig
Y Comisiwn Coedwigaeth
Coed y Cymoedd
Resolfen
Castell-nedd
SA11 4DR
Ffôn: 01633 580234
Ffôn symudol: 07867940246
Ebost: andrew.scourfield@forestry.gsi.gov.uk


