Cenhedlaethcoed
Cefndir/cyd-destun Mae llawer o bobl erbyn hyn yn mwynhau’r manteision sy’n gallu dod o goetiroedd o ran iechyd a lles. Mae ymwybyddiaeth o werth coed wrth helpu i leihau newid yn yr hinsawdd hefyd ar gynnydd - mae’n hysbys ddigon fod coed yn sugno carbon deuocsid ac yn rhyddhau ocsigen yn ystod y broses o ffotosynthesis. Ond nid manteision i gylch y goedwig yng nghefn gwlad yn unig mo’r rhain. Mae gan goed a choetiroedd ran allweddol i’w chwarae mewn adfywio trefol, gan ddarparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’n trefi a’n dinasoedd. Disgrifiad/pam "Mae Cenhedlaethcoed yn brosiect coedwigaeth drefol a sefydlwyd i helpu i wella ardaloedd trefol yng Nghymru trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth, gan gynnwys ariannu, ar gyfer plannu coed yn y trefi. Sefydlwyd y prosiect am y tro cyntaf yn 2003, pan aeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru at nifer o sefydliadau yn rhanbarth gogledd ddwyrain Cymru er mwyn creu partneriaeth. Erbyn hyn mae Cenhedlaethcoed yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau plannu coed yn y trefi. O brosiectau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned fel cynlluniau plannu ysgolion, i fusnesau unigol sy’n awyddus i wella’u hadeiladau a chynlluniau gwella canol trefi, lle gall plannu coed yn ystyriol helpu dynodi ardaloedd trefol, gan greu teimlad o le. O gofio’r duedd am hafau poeth, sych a llifogydd gaeaf, mae cynyddu gorchudd y coed hefyd yn rhoi cysgod ac yn helpu atal colli dŵr. Un o’r prosiectau y mae Cenhedlaethcoed wedi’i gefnogi yw Parc Canol, sef yr ail ddarn mwyaf o le trefol gwyrdd yng Nghei Conna. Ffurfiwyd partneriaeth leol â Chyngor Trefol Cei Conna a grŵp lleol Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWW). Yn gyfan gwbl, plannwyd mwy na 1,000 o goed cynhenid o wahanol faint mewn gwahanol leoliadau gyda chymorth mwy na 200 o bobl gan gynnwys trigolion lleol, 5 ysgol leol, tîm troseddwyr ifanc, tîm uwch reolwyr Airbus, y cynghorydd sir lleol Aaron Shotton, Aelod Cynulliad Cymru Carl Sergeant a’r AS lleol Mark Tami. Mae’r prosiect hwn yn helpu i wella bioamrywiaeth yr ardal – gall derwen unigol, mewn gwirionedd, gynnal mwy na 280 o wahanol fathau o fywyd gwyllt – ac mae wedi’i wneud yn fwy deniadol i’r gymuned leol wrth gael pawb i fod yn rhan o’r weithred ddiriaethol o blannu’u coed." Prosiectau yn y dyfodol "Gobeithiwn estyn y prosiect partneriaeth gwerthfawr hwn i rannau eraill yng Nghymru a helpu pawb i fwynhau manteision cael mwy o goed a choetiroedd yn ein hardaloedd trefol. Yn y tymor sydd ar fin dechrau rydym yn cefnogi prosiect coetir cymunedol arall ac yn gobeithio bod yn rhan o safle melin bapur gan eu helpu i ddatblygu cynlluniau i sgrinio’r safle rhag trigolion lleol trwy gynllun plannu coed yn y trefi sy’n gynaliadwy a deniadol. "
|