CC Cymru’n bodloni Safon Cynllun Sicrhau Coetir y DU
Cefndir/cyd-destun
Boed yn glwyd fechan i’r ardd, yn ffrâm goed gyfan i gartref newydd, yn ysglodion pren ar gyfer tanwydd neu’n atgyfnerthiadau arbenigol ar gyfer pontydd, mae’r awydd i gael pren a chynnyrch pren gan ffynhonnell gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd wedi bod ar gynnydd er y 1990au cynnar. Disgrifiad/pam "Wrth i bryderon prynwyr gynyddu am effeithiau amgylcheddol rheoli coedwigoedd, yn enwedig wrth i ymwybyddiaeth gynyddu o’r cysylltiad â newid yn yr hinsawdd, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi bod yn rheoli coedwigoedd mewn modd cynaliadwy ers sawl blwyddyn bellach. Ym mis Mai 1999, rhoddom groeso i wirio annibynnol drwy Safon Cynllun Sicrhau Coetir y DU (UKWAS), ac erbyn hyn mae’r holl goetir a choedwigaeth a reolir gennym ar ran Cynulliad Cymru wedi cael eu dilysu o dan UKWAS. Mae hyn yn gyfystyr â 126,479 hectar ar draws Cymru ac yn gofyn am ymrwymiad holl staff CC Cymru i gyflawni a chynnal y dilysu 100% hwn. Yn wreiddiol, ac erbyn hyn yn flynyddol, rydym wedi archwilio yn erbyn pob elfen o’r Safon i sicrhau bod ein polisïau ar gyfer rheoli coetiroedd yn gynaliadwy yn cael eu trosglwyddo i’r lefel isaf. Mae’r archwilwyr yn bwrw golwg dros ein holl gynlluniau, o’r strategol i’r gweithredol, ac yn siarad nid yn unig â staff CC Cymru ond hefyd â chontractwyr, a lle bo’n briodol â halwyr a gwerthwyr coed hefyd, i sicrhau bod ein holl arferion yn bodloni’u gofynion trylwyr. Yn anad dim, mae hyn yn golygu pan fo coed yn cael eu cwympo at wahanol ddibenion, fod gennym gynlluniau cadarn i ailstocio’r coetir a’i reoli ar ôl hynny i sicrhau parhad gorchudd y coetir. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gofalu am fywyd gwyllt y mae angen y coetir arno fel cynefin naturiol trwy amddiffyn rhannau o’r goedwig rhag eu cwympo a darparu mosaig o gynefin. Gwell gennym weithio gyda chontractwyr a phartneriaid lleol lle bo modd ac annog defnyddio’r coetiroedd er mwyn cefnogi’r gymuned leol. Archwilir elfennau hyn ar ein rheolaeth hefyd gan archwilwyr UKWAS. O safbwynt y cwsmer, mae ein dilysu drwy UKWAS yn gwarantu bod yr holl gynnyrch pren a choed wrth goetir CC Cymru o reidrwydd yn gymeradwy iawn o ran yr amgylchedd." Prosiectau yn y dyfodol "Archwilir coetiroedd y Cynulliad bob blwyddyn a byddwn yn parhau i reoli’r coetiroedd hyn er mwyn bodloni UKWAS a gwneud y cyfan sy’n ein gallu er mwyn effeithio’n gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd. Er bod newid yn yr hinsawdd yn bwnc cymhleth, â llawer o farnau ac achosion gwaelodol, nid oes unrhyw amheuaeth nad yw’n coedwigoedd yn hollbwysig a bod eu rheoli er mwyn cynnal ecosystem gytbwys yn gorfod bod yn llesol yn y tymor hir."
|