Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Teithiau Cerdded ym Mharc Coedwig Afan
 

LLWYBRAU O GANOLFAN CEFN GWLAD AFAN. RC COED Y CYMOEDD.Cefndir/cyd-destun

Cwm Afan yw un o gymoedd mwyaf cul a harddaf de Cymru. O’i ddechrau ym Mwlch yr Afan hyd y môr yn Aberafan, y cwm sy’n 15 milltir o hyd yw lleoliad Parc Coedwig Afan. Er ei fod yn cael ei gydnabod yn lleoliad gwych ar gyfer beicio mynydd, mae gan y Parc hefyd amrywiaeth o deithiau cerdded trawiadol, wedi’u holrhain yn llawn i fodloni pob ymwelydd.

Disgrifiad/pam

"Gwnaeth Comisiwn Coedwigaeth y fan hon yn Barc Coedwigol 35 mlynedd yn ôl oherwydd ei bosibiliadau gwych ar gyfer teithiau cerdded. Yn ystod yr amser hwnnw rydym wedi creu naw taith gerdded amrywiol sydd ar gael heddiw ac o safbwynt ymwelwyr, mae’r hen draciau, sef teithiau a ffyrdd trwy’r goedwig sydd wedi’u hadeiladu’n unswydd yn ffordd wych o fwynhau panoramâu hyfryd a gweld gwir harddwch yr ardal hanesyddol hon.

Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiweddar i godi proffil a’r ymwybyddiaeth o’r teithiau hyn ymhlith cymunedau lleol y cwm. Wedi’r cyfan, gan fod coetiroedd derw hynafol, afonydd, bywyd gwyllt, meini hir mythig a chyfoeth o hanes ar garreg ein drws, mae hwn yn brofiad sy’n agored i bawb.

Er bod arwyddion wedi’u gosod ar bob llwybr, roeddem am ei gwneud yn haws fyth i bobl ddewis Parc Coedwig Afan, felly rydym wedi creu pecyn teithiau cerdded. Mae’n faint poced hylaw ac yn cynnwys map sy’n plygu allan o’r holl deithiau a siart i ddangos yn syth y pellter, amser ac anhawster, gan ei gwneud yn haws i ddewis taith a fyddai’n gweddu i bob gallu. Mae gan bob taith gerdyn unigol wedi’i lamineiddio a map hawdd ei ddilyn, canllaw fesul cam o’r hyn sydd i’w weld ar hyd y daith a golwg o’r awyr ar yr ardal sy’n cael ei chynnwys o fewn y daith gerdded.

Rydym yn dosbarthu’r pecyn i feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn yr ardal er mwyn annog pobl i gynnwys cerdded yn eu bywydau pob dydd fel ffordd o wella’u hiechyd a lleihau lefelau straen. Mae’r pecynnau ar gael i bawb yn y ganolfan ymwelwyr lle mae lluniaeth derbyniol hefyd wrth law.

Prosiectau yn y dyfodol

"Cerdded yw efallai un o’r ffyrdd hawsaf o gadw’n heini – beth bynnag y tywydd! O rodio’n hamddenol i gerdded grymus egnïol, gall pawb fanteisio ar yr ymarfer pleserus hwn a byddwn yn parhau i chwilio am gymaint o gyfleoedd a ffyrdd o dynnu sylw at deithiau cerdded ym Mharc Coedwig Afan ag y bo modd."



Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov