Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
 

View north from Brecon Beacons . Location: Brecon , Powys , Wales .Cefndir/cyd-destun

Lleolir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng nghanolbarth Cymru ac mae’n cynnwys rhyw 520 o filltiroedd sgwâr gan gynnig amrywiaeth eang o gefn gwlad hardd a chyfleusterau hamdden ac mae’n gaffaeliad mawr i dwristiaeth leol. Mae tirwedd y Parc o dan gysgod y bryniau a’r mynyddoedd agored ond mae mwy i’r lle rhyfeddol hwn na’r copaon uchel. Mae’r ardaloedd tir isel lawn mor eithriadol ac yn cynnwys rhaeadrau cuddiedig, eangderau o dir ffermio, afonydd yn ystumio ac ardaloedd coediog. Mae’r dirwedd anhygoel hon newydd gael ei chydnabod fel y Parc Cenedlaethol cyntaf yn y DU i’w ddyfarnu’n deilwng o statws Geoparc ar gyfer Geoparc Fforest Fawr.

Disgrifiad

"Mae ansawdd profiad ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn deillio nid yn unig o harddwch arbennig y lle ond hefyd o’r modd yr ydym wedi trefnu’r amgylchiadau naturiol i’w rhoi o fewn cyrraedd pobl ac yn hawdd eu defnyddio. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd, mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r tirfeddianwyr eraill, i reoli’r cefn gwlad er lles ein hymwelwyr. Mae rhyw 10,000 hectar o’r Parc yn goetiroedd wedi’u rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac mae ein rheolwr rhanbarth lleol yn gweithio’n agos gyda Stiwardiaid y Parc i ddatblygu teithiau cerdded newydd, llwybrau a thraciau i wneud y defnydd gorau o dirwedd y goedwig ar gyfer pob math o weithgareddau hamdden.

Rydym hefyd yn ymwneud ag Awdurdod y Parc wrth wella gwerth addysgiadol y dirwedd ryfeddol hon. Nid yn unig mae ein Swyddogion Addysg yn gweithio gydag ysgolion lleol i wneud y defnydd gorau o’r amgylchedd dysgu naturiol hwn ond mae ein canolfan ymwelwyr yng Ngarwnant, sy’n sefyll wrth borth y Parc, yn ganolbwynt i ysgolion a theuluoedd ddysgu mwy am goetiroedd, coedwigoedd a bywyd gwyllt cysylltiedig sydd i’w cael ym Mannau Brycheiniog.

Mae ein gwaith hefyd yn ymestyn i gefnogi gwaith mwy strategol Awdurdod y Parc er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer ardaloedd coedwigol a choetir yn cydblethu â’r cynlluniau cyffredinol ar gyfer y Parc. Mae ein Cyfarwyddwr ar gyfer Comisiwn Coedwigaeth Cymru hefyd yn eistedd ar bwyllgor Geoparc Fforest Fawr."

Prosiectau yn y dyfodol

"Eleni bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu’i hanner canmlwyddiant a byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdod y Parc a’n partneriaid i sicrhau bod pob ymwelydd yn mwynhau ac yn cael budd o’u profiad ac edrych ymlaen at ddychwelyd."



Safleoedd defnyddiol


to DirectGov