Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Rali Baja Prydain Fawr 2007
 

Cefndir/cyd-destun

Mae coedwigoedd Cymru yn lleoedd gwych ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys y rali flynyddol bwysig, sef Rali Prydain Fawr Cymru, sy’n dod â llawer o fusnes i westai a thai bwyta, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae Cymru wedi gwneud enw da iddi ei hun am gynnal digwyddiadau moduro pwysig, ac eleni bydd un o rowndiau Cwpan Rhyngwladol yr FIA ar gyfer Bajas Traws Gwlad, y tro cyntaf iddi ddod i Brydain, yn cael ei chynnal yng nghoedwigoedd canolbarth Cymru.

Disgrifiad/pam

"Mae’n bleser mawr gennym groesawu Rali Baja Prydain Fawr 2007. Mae cynnal unrhyw weithgaredd moduro yn her logistaidd anferthol, ac mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig. Fel arfer, mae staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â threfnwyr y digwyddiad i sicrhau nad yw’r gweithgareddau chwaraeon modur yn tarfu ar ddefnyddwyr eraill y goedwig - sef beicwyr mynydd, cerddwyr a chymunedau lleol. Pan fo’r gweithgaredd hwn drosodd, bydd ein timau o beirianwyr sifil a choedwigwyr yn gwneud yn siwr bod y coedwigoedd yn cael eu dychwelyd i’w cyflwr gwreiddiol.

Mae Rali Baja Prydain Fawr eleni wedi cael cefnogaeth lawn Menter Chwaraeon Modur Cynulliad Cymru, y Gymdeithas Chwaraeon Modur a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Yn dilyn buddsoddiad enfawr o £100,000 i wella ffyrdd coedwig ac uwchraddio traciau, bydd Rali Baja yn elwa ar lwybr arbennig o 55Km drwy rannau uchaf Dyffryn Gwy yn ogystal â llwybr arbennig o bron 60km drwy goedwig Hafren yng nghanolbarth Cymru.

Mae’r trefnwyr eisoes wedi derbyn ymholiadau o Dubai, Rwsia, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal, yr Almaen a Ffrainc. Bydd yr FIA, sef corff llywodraethol y gamp, yn anfon swyddogion o’r Ffindir, Gwlad yr Iorddonen, Bahrain a Ffrainc i asesu’r Rali Baja gyntaf erioed gyda statws FIA i’w chynnal ym Mhrydain

Prosiectau at y dyfodol

"Rydym yn rhagweld y bydd y Rali Baja yn ddigwyddiad mawr, ac y bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon modur eraill yng nghanolbarth Cymru. Yn ogystal â ralïau, mae coetiroedd Cymru yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau awyr agored eraill o ansawdd uchel, gan gynnwys beicio mynydd a chyfeiriannu, ac mae yma botensial i ddatblygu chwaraeon ‘antur’ eraill."



Safleoedd defnyddiol


to DirectGov