Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Prosiect Cadwraeth Glöyn Byw
 

Dark Green Fritillary (Argynnis aglaja)Cefndir/cyd-destun

Fe ŵyr pawb fod coedwigoedd a choetiroedd Cymru’n gartref i lawer o rywogaethau o lo˙nnod byw a gwyfynod. Mae’r creaduriaid yma yn creu pleser a diddordeb mawr i ymwelwyr â’r goedwig ac roedd CC Cymru am wybod mwy am ble gellid cael gafael ar y boblogaeth bwysicaf a pha fath o amgylchiadau oedd yn darparu’r cynefinoedd gorau.

Disgrifiad

"Wnaethom gysylltu gyda "Cadwraeth Glöyn Byw" i ymgymryd â’r gwaith o wneud arolwg ar draws ein 56 coedwig o fewn Ystâd Coetir y Cynulliad, i weld ble oedd y glo˙nnod byw a’r gwyfynod wedi eu lleoli, pa newidiadau mewn poblogaeth oedd yn digwydd a beth fedrem ei wneud i wella ein cynefinoedd. Er ein bod wedi medru darparu arian ar gyfer yr arolwg, y peth pwysicaf oedd brwdfrydedd ac ymrwymiad dros 50 o wirfoddolwyr Cadwraeth Glöyn Byw, staff a chontractwyr a weithiodd mor galed ar yr arolwg trylwyr. Ar ôl pedair, roeddem yn falch i fedru cyhoeddi ar y cyd yr Adroddiad Cadwraeth Glöyn Byw.

Y newyddion da oedd bod yna thros 33 o wahanol rywogaethau wedi cael eu cofnodi yn y coedwigoedd gyda rhai poblogaethau pwysig wedi’u darganfod. Ond i wella’r sefyllfa, rydym yn gweithio ar y cyd gyda Chadwraeth Glöyn Byw i gyflwyno technegau newydd o anogi blanhigion sydd yn creu bwyd i'r glo˙nnod byw a’r gwyfynod i ledaenu ac i gael gwared â phrysgwydd o dan y coed er mwyn gwella a chynyddu cynefinoedd bridio. Mae’r adroddiad gwerthfawr yma yn ein helpu i hysbysu a datblygu ein cynlluniau hir dymor i ddarparu, cynnal ac ehangu cynefin bridio addas, wrth wrthdroi'r dirywiad mewn rhywogaethau allweddol o lo˙nnod byw a gwyfynod yng Nghymru.

Prosiectau yn y dyfodol

"Y camau nesaf o’n partneriaeth gwaith yw rhoi awgrymiadau’r adroddiad mewn grym a chadw llygad ar y canlyniadau, gan wneud y gorau o’n adnoddau coetir ac anogi mwy o bobl i ddod a darganfod y bywyd gwyllt yn ein coedwigoedd."



Safleoedd defnyddiol


to DirectGov