Dyma crynodeb gweithredol o adroddiad sydd ar gael am waith ymchwil a wnaed yn Ysgol Goedwig Pentre yn 2006. Mae'r gwaith ymchwil yn canolbwynio ar y buddion o Ysgol Goedwig i blant mewn addysg cynradd prif ffrwd ac yn asesu'r gwahanol dulliau o gwerthuso i Arweinyddion Ysgol Goedwig a cyfranogwyr. Mae adroddiad llawn ar gael o ffion.hughes@forestry.gsi.gov.uk
Adran 1 – Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi gwaith ymchwil a ymgymerwyd gan Lorna Jenner, ymgynghorydd addysgol amgylcheddol ar ei liwt ei hun a Ffion Hughes, Swyddog Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Datblygwyd rhaglen Ysgol Goedwig am gyfnod o 14 wythnos yn ymwneud â dau ddosbarth o Ysgol Pentre, ysgol gynradd bentref fach ym Mhentre, ger Y Waun, yng Ngogledd Cymru. Roedd y prosiect ymchwil am ganfod a oedd Ysgol Goedwig yn arwain at newidiadau gweladwy yn y disgyblion a gymerai ran. Ail nod oedd profi technegau gwerthuso, ac ar ôl hynny, awgrymu ffyrdd o werthuso fel y gallai arweinwyr eraill eu defnyddio a’u haddasu.
Adran A – Effaith Ysgol Goedwig
Mae’r Adran hon o’r adroddiad yn amlinellu’r ffordd y gwerthuswyd y rhaglen ar sail model Y Sefydliad Economeg Newydd(nef)/ Cam 21 Ymchwil Coedwigaeth i werthuso Ysgol Goedwig. Roedd yr holl randdeiliaid: athrawon, arweinwyr Ysgol Goedwig, rhieni a’r plant eu hunain yn rhan o’r broses gwerthuso.
Gan ddefnyddio’r model a gynigiwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd(nef)/Ymchwil Coedwigaeth, cynhaliwyd ymarferiad bwrdd stori er mwyn sefydlu’r rhagdybiaethau a’r gosodiadau sylfaenol ar gyfer Ysgol Goedwig, ac i ddewis y dangosyddion a ffyrdd o gasglu data, i ddangos a oedd y rhagdybiaethau hyn yn gywir.
Dyma’r rheiny:
- Cynnydd mewn hunanbarch a hunanhyder
- Gwell sgiliau cymdeithasol
- Datblygiad mewn sgiliau iaith a chyfathrebu
- Gwell sgiliau motor corfforol
- Gwell cymhelliant a chanolbwyntio
- Cynnydd yn y wybodaeth a’r dealltwriaeth am yr amgylchedd
Er mwyn casglu tystiolaeth, cymerwyd sampl o blant o bob dosbarth a’u harsylwi yn ystod sesiynau Ysgol Goedwig. Er mwyn olrhain a oedd yr ymddygiad o dan sylw a ddangoswyd yn cefnogi’r rhagdybiaethau neu beidio, cofnodwyd ymddygiad y sampl o’r plant yn wythnosol gan yr arweinwyr ac athrawon drwy ddefnyddio templedi cofnodi data.
Llenwodd pob un o’r plant a oedd yn cymryd rhan ddyddiaduron Ysgol Goedwig a gofynnwyd i’w rhieni hefyd lenwi dwy ffurflen werthuso yn ystod y rhaglen. Unwaith y gorffennwyd y rhaglen cynhaliwyd gweithdai adolygu anffurfiol yn fras seiliedig ar adran uchafbwyntiau ac isel bwyntiau'r poster gwerthuso a ddisgrifir yn adroddiad nef, gyda’r plant, yr athrawon a’r cynorthwywyr dosbarth.
Ar ôl casglu a dadansoddi’r wybodaeth a gafwyd gan bawb a oedd ynghlwm, roedd yn amlwg bod newidiadau ymddygiad sylweddol wedi digwydd o’u cymharu â phob un o’r rhagdybiaethau a wnaed.
- Persbectifau newydd ar gyfer athrawon, arweinwyr, plant a rhieni ynghlwm wrth Ysgol Goedwig.
Dangoswyd cynnydd amlwg mewn hunan hyder ymhlith llawer o’r plant yn ystod y rhaglen. Sylwyd ar blant yn mynd i’r afael â thasgau newydd heb gymorth ac yn siarad ag ymwelwyr newydd, yn enwedig y disgyblion hynny a oedd yn fwy swil ac yn tueddu i fynd i mewn i’w cragen yn yr ysgol.
- Cynnydd mewn hunanwerth a hunanhyder
Sylwodd yr Athrawon a’r Arweinwyr bod gwaith tîm cryf yn datblygu a nodwyd gan yr athrawon bod partneriaethau llwyddiannus yn cael eu ffurfio yn yr Ysgol Goedwig rhwng disgyblion a oedd yn methu cydweithio’n llwyddiannus yn y dosbarth cyn hynny.
- Gwell sgiliau cymdeithasol
Roedd lawer o’r disgyblion yn dawel ac yn swil gyda’r oedolion anghyfarwydd yn ystod yr wythnosau cyntaf. Yn raddol, wrth i’r rhaglen ddatblygu, sylwyd ar y plant hyn yn rhannu eu syniadau’n barod ac yn esbonio rheolau Ysgol Goedwig i oedolion a oedd yn ymweld.
- Datblygiad mewn sgiliau iaith a chyfathrebu
Roedd yna rywfaint o welliant yn llawer o’r plant. Ar ôl dibynnu ar gymorth i ddringo grisiau a dringo dros y gamfa yn ystod yr wythnosau cyntaf, buan y daethant yn gyfarwydd â’r her corfforol roedd safle Ysgol Goedwig yn ei gorfodi arnynt a chydag anogaeth, roeddent yn mwynhau mynd ben ben â hwy.
- Gwell sgiliau motor corfforol
Roedd nifer o blant yn frwdfrydig dros ben ar gychwyn y prosiect, yn awyddus i gymryd rhan ym mop peth ac yn ymatebol iawn i gwestiynau. O safbwynt canolbwyntio, gwelwyd gwelliannau mawr. Gwelwyd plant a ddisgrifiwyd fel rhai â lefelau isel o ganolbwyntio yn llwyddo i ganolbwyntio am gyfnodau hir , i wneud gemwaith ysgawen ac yn chwilio am drychfilod.
- Gwell cymhelliant a chanolbwyntio
Un o’r prif feysyddd y gwelwyd gwelliannau ynddo gydag arweinwyr, athrawon a rhieni’n gwneud sylwadau’n aml ar y cynnydd yn lefel yr ymwybyddiaeth amgylcheddol a’r diddordeb mewn bywyd gwyllt. Wrth i’r wythnosau fynd heibio gallech glywed y plant yn siarad ymhlith ei gilydd am ba mor hyfryd oedd arogl y garlleg gwyllt ac yn trafod sut roedd yr haul wedi sychu’r pyllau dŵr am mai’r haf oedd hi.
- Cynnydd yn y wybodaeth a’r dealltwriaeth am yr amgylchedd
Gan fod yr athrawon yn chwarae rhan gynorthwyol yn hytrach nag yn cyflwyno’r rhaglen, roedd yn cynnig cyfle gwerthfawr iddynt arsylwi’r plant wrth eu gweithgareddau. Roedd sylwadau’r rhieni’n awgrymu bod llawer o’r plant mor frwdfrydig ynglŷn â’u profiad yn yr Ysgol Goedwig fel ei bod wedi mynd adref a sôn amdano, gan fynd â’u rhieni yno ar y penwythnos i weld beth roeddent wedi ei wneud yn yr Ysgol Goedwig yr wythnos honno.
Crynodeb o’r Casgliadau
- Persbectifau newydd ar gyfer athrawon, arweinwyr, plant a rhieni
Gall mynychu Ysgol Goedwig fod o fudd i bob math o blant ifanc. Yn y gorffennol bu astudiaethau’n canolbwyntio ar ddisgyblion anystywallt, ond mae’r prosiect hwn wedi cadarnhau bod gan Ysgol Goedwig fanteision pendant i blant ifanc ar draws yr ystod dysgu.
- Y meysydd lle y dangoswyd gwelliant amlwg oedd hyder a chanolbwyntio - ac ni ragwelwyd faint.
Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn tystio ymhellach i’r cyfiawnhad dros gynnwys Ysgol Goedwig yn y cwricwlwm prif ffrwd.
Adran B – Pa mor effeithiol oedd y pecyn gwaith ar gyfer gwerthuso?
O safbwynt gwerthuso dysgu plant, roedd y gronfa feddalwedd gwerthuso’n cynnwys templedi o adroddiad Y Sefydliad Economeg Newydd(nef) i gofnodi ymddygiad arsylwedig yn wythnosol. Crëwyd ffurflenni asesu gwaelodlin disgyblion cyn ac ar ôl, holiaduron rhieni a dyddiaduron disgyblion Ysgol Goedwig a chynhaliwyd sesiynau gwerthuso myfyriol gyda’r plant er mwyn cael mwy o wybodaeth. Darparwyd asesiad ffurfiannol o addysgu’r arweinwyr drwy lenwi dyddiaduron sesiynau myfyriol gan yr athrawon a’r arweinwyr fel ei gilydd. Rhoddodd yr arweinwyr ymateb llafar cyfoedion i’w gilydd hefyd.
Wrth gymryd rhan arsyllwyr, profwyd mai gwerthusiad yr athrawon oedd y rhai mwyaf gwerthfawr yn ystod y prosiect am eu bod yn adnabod y plant yn dda mewn sefyllfa ddysgu gonfensiynol ac yn gyfarwydd ag asesu a gwerthuso disgyblion. Fodd bynnag, mae eu hamser yn gyfyngedig. Petai’r athrawon wedi bod yn cynnal y rhaglen eu hunain, efallai na fyddai ganddynt yr amser i’w roi i werthusiad. Dylid ystyried hyn ar gyfer gwerthusiadau yn y dyfodol.
Gwelwyd bod yr asesiadau arweinwyr yn gymorth defnyddiol wrth gynllunio rhaglenni yn y dyfodol. Roedd y ffotograffau’n cynnig tystiolaeth dda ar gyfer gwerthuso hefyd, tra roedd dyddiaduron Ysgol Goedwig y plant yn cynnig darlun da o’r hyn oedd y plant yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi ac effaith Ysgol Goedwig. Roedd ymateb rhieni yn rhoi tystiolaeth ddefnyddiol i ddangos effaith ehangach ledaenol Ysgol Goedwig.
Rhagdybiaethau i wella’r gwerthusiad:
- Byddai angen mwy o waith ymchwil er mwyn cadarnhau bod gan y prosiect effaith tymor hir ar fywydau’r plant.
- Angen mwy o amser i gynllunio asesiadau’r gwaelodlin a dylid cynnwys athrawon yn y broses.
- Symleiddio ffurflenni gwerthuso wythnosol arweinwyr
- Gwella strwythur sesiynau gwerthuso myfyriol drwy rannu’r plant yn ôl eu grwpiau blwyddyn, yn hytrach na cheisio cael y dosbarth cyfan i weithio gyda’i gilydd
- Plethu â chwricwlwm y cyfnod sylfaen, dylid asesu creadigrwydd a chwarae.
- Roedd y safle ar goetir gwlyb o bwysigrwydd ecolegol uchel. Er na achoswyd unrhyw ddifrod tymor hir, oherwydd tywydd gwael anamserol, am ychydig o wythnosau roedd gwersyll yr Ysgol Goedwig yn llawn dŵr a mwdlyd. Roedd ail safle yn y coetir y gellid bod wedi gwneud mwy o ddefnydd ohono. Er y cynhaliwyd asesiad effaith ecolegol ar y safle cyn i’r rhaglen ddechrau, yn y dyfodol dylid ysgrifennu gwerthusiadau wythnosol o’r safle.
Atodiadau
Mae’r atodiadau’n cynnig y fformatau ar gyfer casglu tystiolaeth ynghyd ag enghreifftiau o’r data a gasglwyd yn ystod y prosiect.
Os ydych eisiau copi o adroddiad Pentre yn llawn, cysylltwch a Ffion Hughes:
Teleffôn: 0845 604 0485 neu ebost : ffion.hughes@forestry.gsi.gov.uk
