Diogelu Rhywogaethau a ddiogelir o dan gyfraith Ewrop (RhDdDGE)
Gwnaethpwyd nifer o newidiadau i’r Rheoliadau Cynefinoedd sy’n cynyddu’r amddiffyniad cyfreithiol a roddir i rywogaethau a amddiffynnir lle bynnag y’u ceir yng Nghymru. Ceir nifer o’r rhywogaethau sy’n dod o fewn y Rheoliadau mewn coetiroedd, ac felly fe fydd ganddo oblygiadau ynglŷn â’r ffordd mae’r coetiroedd yn cael eu rheoli a’r modd y gweithredir gweithrediadau coedwigaeth.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi bod yn datblygu’r dull o weithredir newidiadau hyn a’u gosod yn y sector coedwigaeth. Rydym yn ymroddedig i gynyddu rheolaeth gynaliadwy coetiroedd Cymru, nid lleiaf oherwydd y fioamrywiaeth sy’n cael ei hamddiffyn gan Reoliadau Cynefinoedd. I’r perwyl hwn rydym wedi cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod y gwelliant hwn yn cael ei gynnwys yn y canllaw arfer gorau ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy, yn hytrach na bod yn fesur rheoli ychwanegol.
Bydd y rheoliadau diwygiedig hyn yn galw am newidiadau i reolaeth coetiroedd a gweithrediadau coedwigaeth mewn ardaloedd lle y ceir rhywogaethau a ddiogelir o dan gyfraith Ewrop (RhDgDGE). Y rhywogaethau y gellir eu canfod yng nghoetiroedd Cymru yw:
- pob un o’r 17 o rywogaethau ystlumod
- y pathew
- y fadfall gribog
- y dyfrgi
(Gall fod llyffant y twyni ac ambell i rywogaeth o blanhigyn, yn y coetiroedd ar adegau prin iawn, neu gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio arnynt.)
Beth sydd angen i reolwyr coetir ei wneud er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cynefinoedd
Datblygwyd cyfres o ddulliau i gynorthwyo a chynghori perchnogion a rheolwyr coetir ynglŷn â sut i reoli coetiroedd lle mae rhywogaethau a ddiogelir o dan ddeddf Ewrop yn bresennol. Mae’r canllaw hwn yn unol ag ymarferion rheoli coedwigoedd cynaliadwy a Rheoliadau Cynefinoedd. Nodwch y gellir diweddaru’r canllaw o bryd i’w gilydd.
Cewch y wybodaeth ganlynol ar y tudalennau hyn:
Dogfennau Canllaw
Canllaw cyffredinol sy’n gosod y newidiadau i’r Rheoliadau. Mae’n cynnwys coeden gwneud penderfyniadau sy’n dangos yr hyn y dylai rheolwyr coetir ei ystyried wrth benderfynu a oes angen iddynt wneud cais am drwydded neu beidio.
- Rhan 1 Canllaw cyffredinol [fformat PDF]
- Coeden Benderfyniadau [fformat PDF] Wedi ei ddiweddaru
- Cwestiynau ac atebion coedwigaeth [fformat PDF]
- Cwestiynau ac atebion rheoliadau cynefinoedd LlCC
- Nodyn arweiniad CCC ynglŷn â gweithrediadau coedwigaeth a RhDhdDGE yng nghoedwigoedd Cymru [fformat PDF]
Canllaw penodol, yn ôl rhywogaeth, sy’n dangos sut i ganfod a oes RhDdDGE yn bresennol yn eich coedwig chi, a sut i weithredu os ydynt. Bydd hyn yn cynnwys canllaw arfer da ar yr ystlum, y pathew, y fadfall gribog a’r dyfrgi.
- pob un o’r 17 o rywogaethau ystlumod [PDF] Diweddarwyd Medi 2010
- y pathew [PDF] Diweddarwyd Medi 2010
- y fadfall gribog [PDF] Diweddarwyd Medi 2010
- y dyfrgi [PDF] Diweddarwyd Medi 2010
Ffurflen cais am drwydded a dogfennau ategol.
- Cais am drwydded Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd – gweithrediadau coedwigaeth a choetir. (MS Word™ - 181kb)
Mae’r ffurflen yma wedi cael ei chreu ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Sylwer y medrwch gwblhau’r ffurflen yma yn electronig ond mae angen ei brintio, arwyddo a danfon yn fformat copi caled i naill ai cyngor Cefn Gwlad Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w brosesu, gellir cael gafael ar eu manylion cysylltu ar y ffurflen.
Newydd
Dylid gwneud unrhyw ymholiadau ynglŷn â deddfwriaeth Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd a’i chydberthynas gyda choedwigaeth neu weithrediadau coetir, teliffon Grantiau a Rheoliadau - 0300 068 0300. Tudalennau perthnasol:

