Cynaeafu a Marchnata Cymru (WHaM) yw adran cynaeafu a marchnata’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru. Mae ei swyddfa ym Mhenrhyn-coch, ger Aberystwyth, ac mae ei staff yn gyfrifol am Gymru gyfan, gan reoli holl gynaeafu, cludo a gwerthu coed o goetiroedd a reolir gan y Cynulliad. Sefydlwyd yr uned yn y flwyddyn 2000 i dynnu ynghyd yr arbenigedd cynaeafu yng Nghymru ac i ganolbwyntio’r ymdrechion gwerthu. Mae’r swyddfa ym Mhenrhyn-coch bellach yn gartref i Beiriannydd Sifil y Gwlad a’i dîm.Mae 44 aelod o staff yn WHaM, yn adrodd i Hugh Jones, sy’n bennaeth yr uned. Nod y tîm yw trefnu bod 790,000 m3 o bren ar gael i’r farchnad bob blwyddyn. Caiff hwn ei gynnig i’r farchnad drwy werthu pren ar ei sefyll neu bren cwympo, sydd wedi’i weithio gan beiriannau fflyd a chontractwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae ein holl bren yn cael ei werthu’n gystadleuol naill ai drwy dendrau electronig chwarterol, neu drwy gontractau hirdymor. I gael gwybodaeth am brynu pren, neu i gofrestru i brynu pren yn electronig, cysylltwch ag aelod o’n tîm neu gofrestrwch ar-lein. |