Tymor 2005 Lansiwyd y prosiect yn llwyddiannus ar Ddydd Gwener 15 Gorffennaf, 2005, yng nghanolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan yng nghwm Afan ym Mhort Talbot. Gwelwyd cannoedd o ymwelwyr a chreodd gyffro a chefnogaeth leol. Dodwyodd yr iâr ddau wy ym Mehefin. Deorodd y cyw cyntaf dros nos ar Nos Lun 4 Gorffennaf / ben bore Dydd Mawrth 5 Gorffennaf, ond gwaetha’r modd cafodd ei chwythu oddi ar y nyth gan wyntoedd cryfion. Deorodd ail gyw ar Ddydd Iau 7 Gorffennaf, a thyfodd yn iach, a llwyddasom ninnau i ddangos lluniau rhyfeddol o’r iâr yn dod â nythod gwenyn meirch a llyffantod yn fwyd i’r un ifanc. Drwy gydol y prosiect yn 2005, ni welwyd mo’r ceiliog boda ar gyfyl safle’r nyth. Y diwedd trist oedd i’r cyw oedd ar ôl gael ei gipio gan aderyn gosog. Mae’r ffaith fod adar prin ac anghyffredin yn cael eu rheibio gan adar ysglyfaethus, gan gynnwys gosogion, yn ddigon hysbys. Er ei bod hi’n drist i foda’r mêl golli’r cyw oedd ar ôl i’r gosog, mae’n annhebygol i hyn gael effaith arwyddocaol ar boblogaeth bodaod y mêl yng Nghymru. At ei gilydd, mae atgenhedlu bodaod y mêl yng Nghymru, ers dod o hyd i’r nyth cyntaf yn 1991, wedi bod yn dda iawn. Y tebyg yw bod ymhell dros 400 o barau o osogion yng Nghymru bellach (ni wyddys mo’r union nifer gan nad oes arolwg cyflawn wedi bod). Maent yn adar ysglyfaethus effeithiol dros ben ac maent yn cymryd dewis helaeth o ysglyfaeth, gan gynnwys gwiwerod llwyd, ond yn bennaf maent yn cymryd rhywogaethau adar fel brain tyddyn ac ysguthanod. |