Y ffordd orau i adnabod boda’r mêl, sydd mor anodd i’w weld, yw drwy siâp hir ei ben a’r 2 neu 3 bar nodweddiadol ar ei gynffon. Anaml mae modd gweld y barrau ar y gynffon, ond maent yn arwyddion ohono – mae adennydd a chynffon hir hefyd o gymorth i’w adnabod o bell. Mae’n hedfan fel petai’n hwylio ar adennydd gwastad, ac yn curo’i adennydd yn barhaus wrth hedfan ar ei hynt. Mae’n dawel fel arfer, ond gall drydar yn ymyl y nyth. Camgymerir rhyngddo a’r bwncath weithiau. Mae bodaod y mêl yn bwydo’n bennaf ar nythod, larfâu, pwpaod ac oedolion gwenyn meirch, gwenyn, cacwn a chacwn meirch. Bydd yr adar yn dilyn pryfed sy’n hedfan i’r nyth ac yn cloddio cyn ddyfned â 40cm gyda’u traed i gyrraedd eu hysglyfaeth. Pan fydd eu prif ysglyfaeth yn brin, byddant yn bwyta pryfed eraill, amffibiaid, ymlusgiaid, mamolion bychain, cywion yn y nyth ac wyau adar, llyngyr, ffrwythau ac aeron. Y diet rhyfedd sydd ganddo sydd hefyd yn gyfrifol am yr enw arall sydd arno, ‘hebog gwenyn’. Mae gan foda’r mêl addasiadau corfforol neilltuol arno oherwydd ei ddiet unigryw. Mae’r rhain yn cynnwys plu mân, trwchus, cennog ar flaen ei wyneb i’w gynorthwyo rhag cael ei bigo gan y pryfed mae’n eu hela, traed cryfion a chennau trwchus gyda chrafangau ychydig ar dro bron yr un faint â’i gilydd ar gyfer cloddio a cherdded, yn ogystal â ffroenau rhwyllog i leihau cael eu cau gan bridd wrth iddo gloddio. Mae bodaod y mêl yn dychwelyd o’u tiroedd gaeafu yn Affrica drofannol ganol Mai a cheir ymfudo’r hydref ym mis Medi. Mae adar ymfudol wedi cael eu tracio gyda throsglwyddyddion lloeren (wedi’i gyllido gan Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban) ac mae hynny wedi dangos pa mor fregus yw adar ifanc ar eu hymfudiadau cyntaf, a chyflymder a natur barhaus ymfudiad yr adar llawn dwf wrth ymgymryd â hedfan heb stop o wledydd Prydain i Affrica. Mae’n adeiladu ei nyth ar gangen coeden fawr a gwneir hyn yn bennaf gan yr iâr. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o adar ysglyfaethus nid yw’r cywion yn ymosod ar ei gilydd, ac ychydig o gystadlu am fwyd sydd fel arfer. Os collir yr iâr, mae’r ceiliog yn gallu magu’r nythaid ei hun yn llwyddiannus. Nid yw oedran dechrau bridio yn hysbys. Mae poblogaeth bodaod y mêl yn sefydlog drwy’r rhan fwyaf o Ewrop ond prin maent yn bridio yn y DU. Mae ffigyrau poblogaeth a gyhoeddwyd yn 2001 yn cadarnhau bod 27 o barau o fodaod y mêl yn y DU, ond mae gweithwyr profiadol yn y maes yn amcangyfrif y gall fod yna’n nes at 100 o barau o’r rhywogaeth ddirgel hon. Ceir bodaod y mêl fel arfer mewn ardaloedd lle mae coedwigoedd mawr aeddfed. Ni wyddys faint yw poblogaeth bodaod y mêl yng Nghymru, yn rhannol oherwydd natur anamlwg disylw yr aderyn ei hun ac yn rhannol oherwydd cyndynrwydd i gyhoeddi gwybodaeth am safleoedd nythod oherwydd y perygl gan gasglwyr wyau. Nid oes yr un arolwg statudol erioed wedi ei gynnal ar fodaod y mêl.
| O gywion i adar – cliciwch ar y llun cryno am olygfa fwy o faint: © Steve Roberts |



