|
Bodaod y Mêl – Adar Ysglyfaethus y Goedwig
Roeddent wedi diflannu yn y DU tua throad y ganrif ddiwethaf (1900-1910) ac erbyn 2001 dim ond 27 o barau a oedd wedi’u cadarnhau ym Mhrydain (er bod gwylwyr profiadol o’r farn fod hyd at 100 o barau yn bridio yma). Bodaod y Mêl yng Nghymru Wedi eu canfod yn bridio yng Nghymru yn 1991, mae gweld bodaod y mêl yn dal yn olygfa brin ac felly rydym yn freintiedig dros ben ein body n gallu i edrych i mewn i nyth. Yn 2005 recordiodd Prosiect Bodaod y Mêl luniau ar dâp o’r nyth ond gwaetha’r modd ni lwyddwyd i fagu cywion yn llwyddiannus. Yn 2006 recordiodd y prosiect luniau o 2 gyw yn cael eu magu’n llwyddiannus o tua 10 niwrnod oed hyd at iddynt hedfan o’r nyth ar 6ed Medi. Unwaith eto yn nhymor 2007 fe gofnododd y prosiect magwraeth lwyddiannus 2 gyw ond y tro yma o ymddangosiad cyntaf y fam a’r tad. Rŵan mae’r ffilm yn cael ei dadansoddi gan Brifysgol Caerdydd.
|  © Steve Roberts
|

| Yn anffodus, oherwydd anawsterau technegol nid ydym wedi medru darlledu lluniau byw o nyth eleni ar ein gwefan. Fodd bynnag, mae yna ddigwyddiadau penwythnos yn cael eu trefnu (mewn maes parcio ger Parc Goedwig Afan) lle gall ymwelwyr wylio fideo o'r nyth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Darroch Lyon. Ffon: 0845 604 0845 E-bost: darroch.lyon@forestry.gsi.gov.uk |
Yn ystod y tymor nythu gellir gweld fideo wedi ei recordio gan y camera yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Afan. Mae Adar Ysglyfaethus y Goedwig yn bartneriaeth rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a:
|
Tudalennau cysylltiedig
|
 |
 |