Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Llwybr beicio newydd i’r teulu ym Mrechfa

Launch of the new Derwen family cycle trail at Brechfa Forest. Llanymddyfri FDMae CC Cymru wedi agor llwybr beicio newydd yng Nghoedwig Brechfa ger Caerfyrddin. Mae llwybr newydd, a elwir yn llwybr y Dderwen, yn galluogi teuluoedd a dechreuwyr i fwynhau prydferthwch coetir naturiol hynafol wrth iddo ymdroelli drwy 10km o goedwig Brechfa.

Y llwybr hwn, sydd wedi ei raddio’n wyrdd ac sydd yn addas i ddechreuwyr, yw’r ail lwybr i’w gael ei adeiladu yn y coetir hwn a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn dilyn agoriad llwybr Gorlech, llwybr coch anoddach a lansiwyd ym mis Awst 2006.

Mae’r llwybrau - y trydydd, llwybr du eithafol a elwir Y Gigfran sydd i’w gwblhau ym mis Hydref - yn rhan o Brosiect Beiciau Brechfa sy’n gweddnewid potensial y coetir i ddenu ymwelwyr drwy greu rhwydwaith o lwybrau beicio wedi’u marcio yn y coetir amrywiol 7,000 ha tra’n cynnig gwell cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr eraill yr un pryd..


Launch of the new Derwen family cycle trail at Brechfa Forest. Llanymddyfri FDMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi datblygu nifer o lwybrau beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd drwy Gymru i gwrdd â galw cynyddol am y gamp boblogaidd hon – a bellach mae’r ardal o gwmpas Coedwig Brechfa yn elwa hefyd.

Bydd y llwybr teuluol a llwybr y Gigfran yn cychwyn o faes parcio Byrgwm (ddwy filltir i’r dwyrain o bentref Brechfa), a bydd dwy adain cigfran dri metr o uchder yn dynodi’r man cychwyn. Gwnaed yr ‘adenydd’ gan gerflunydd lleol o’r enw David Lloyd, ac fe’i lluniwyd o dderw a Ffynidwydd Douglas o Goedwig Brechfa ac fe’u llosgwyd nes eu bod yn ddu er mwyn er mwyn efelychu lliw plu’r aderyn.

Mae’r man cychwyn dramatig y bydd y beicwyr yn mynd trwyddo ar eu ffordd i’r goedwig yn ddolen gyswllt hanesyddol â chigfrain Tŵr Llundain, y credir iddynt gael eu cymryd o Goedwig Brechfa ganrifoedd yn ôl.

Meddai Brian Rumble o Gomisiwn Goedwigaeth Cymru sy’n arolygu Prosiect Beiciau Brechfa, " Bydd llwybr y Gigfran yn llwybr anodd, yn dechnegol a chorfforol, a bydd yn 30km o hyd o leiaf ar ol ei gwblhau."


Launch of the new Derwen family cycle trail at Brechfa Forest. Llanymddyfri FD"Mae’r llwybr teuluol yn dilyn yr un patrwm â’r llwybr coch, sef llwybr Gorlech, ond mae’n llawer haws. Bydd y beicwyr yn gallu teimlo sut mae’r llwybr yn gweithio, a cheir yma gorneli ar oleddf, ‘cildroadau gradd’ sy’n rheoli cyflymder, ac incleiniau a gelltydd ar i waered ac yn y blaen.

"Rydym yn hyderus y bydd y llwybr yn denu teuluoedd a phobl i’r ardal i fwynhau’r coetiroedd gwych hyn."

Mae Prosiect Beiciau Brechfa yn brosiect ar y cyd rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Sir Gâr, mewn partneriaeth â’r gymuned. Ariannwyd y prosiect gan arian Amcan 1 o Ewrop a Chynulliad Cymru, a chafwyd cyfraniadau gan y partneriaid. Ceir arwyddion eisoes bod y llwybrau yn hybu cymunedau drwy ddarparu cyrchfan i deuluoedd a beicwyr profiadol fel ei gilydd.

Mae llwybrau beicio mynydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn rhannau eraill o’r wlad yn denu miloedd o feicwyr bob blwyddyn wrth i’w henw da fynd ar led, ac maent yn dod â miliynau o bunnau i’r economi lleol.


European logo

Beth sydd o ddiddordeb

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol