Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Forest Watch Banner image

Gwarchod Coedwig

Beth yw Gwarchod Coedwig?


Cynllun a sefydlwyd yn Ne Cymru i annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ddigwyddiadau troseddol a gweithgaredd amheus ar dir y CC yw Gwarchod Coedwig (fersiwn coedwigol o Warchod y Gymdogaeth). Aelodau’r cynllun yw aelodau o’r gymuned sy’n mwynhau’r goedwig ac sydd wedi cael llond bol o’r troseddu y maent yn ei weld.


Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i leihau troseddu
Yn 2007, Ardal Goedwig Coed y Cymoedd oedd y gyntaf yn y Comisiwn i benodi swyddog troseddau coedwig. Dechreuodd Rhingyll 3753, Andrew Scourfield, yn y swydd ar secondiad o Heddlu De Cymru i helpu i atal y gweithgareddau troseddol amrywiol sy’n cael eu cyflawni ar stad goed Llywodraeth Cymru.

Ffordd Andrew o sicrhau llwyddiant y cynllun yw casglu cymaint â phosibl o wybodaeth fel y gall weithio’n agos gydag aelodau o’r gymuned. Mae hefyd yn gweithio gydag asiantaethau a mudiadau eraill, yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd ac Awdurdodau Lleol, i ddod o hyd i droseddwyr a’u herlyn.   Hyd yma, mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol.


Mae coedwig De Cymru yn dod yn amgylchedd llawer mwy diogel i bobl. "Rydym wedi gweld gostyngiad amlwg mewn troseddau coedwig a chynnydd yn yr erlyniadau dros y pum mlynedd diwethaf.  Rydw i am i’r troseddwyr wybod nad yw’r coedwigoedd yn hafan ddiogel iddyn nhw mwyach." (Andrew Scourfield).


Gwobrwyo llwyddiant gwarchod coedwig
Yn 2010, dyfarnwyd 'Gwobr Adran Werdd y Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus i Gwarchod Coedwig' gan fforwm amgylcheddol Castell-nedd Port Talbot ac roedd ar y rhestr fer am y 'Wobr Gweithredu dros Fywyd Gwyllt'.  Mae Gwarchod Coedwig hefyd wedi cael ei fabwysiadu gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Hampshire i helpu i leihau’r lefelau troseddu yn y New Forest yn Lloegr.


Rhestr Deg Uchaf Digwyddiadau Troseddol neu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar Stad Goed Llywodraeth Cymru:
• Tresbasu oddi ar y ffordd (beiciau modur a 4x4s)
• Difrod troseddol (i giatiau, ffensys ac ati)
• Tipio anghyfreithlon
• Troseddau cerbydau (cerbydau wedi’u gadael)
• Gwerthwyr cyffuriau (cuddio cyffuriau)
• Herwhela ceirw, wedi’i drefnu
• Dwyn o gerbydau contractwyr
• Dwyn o feysydd parcio
• Safleoedd gweithgareddau rhywiol
• Tanau bwriadol (yn enwedig yn hwyr y gwanwyn – ddechrau’r haf)


Os hoffech ddod yn aelod o Gwarchod Coedwig llenwch y ffurflen ganlynol ac e-bostiwch hi at forestwatch@forestry.gsi.gov.uk neu postiwch hi i’r cyfeiriad isod.

Ffurflen Gais Gwarchod Coedwig (MSWord, 386kb, 1 dudalen)
Nodyn Gwybodaeth Gwarchod Coedwig (PDF, 53kb, 2 dudalen)


Cysylltwch â Ni:
Os hoffech wybod mwy am Gwarchod Coedwig, os oes gennych unrhyw wybodaeth neu os oes angen cyngor neu gymorth arnoch ynglŷn â throseddau coedwig, cysylltwch â’r:
Rhingyll Andrew Scourfield
Swyddog Troseddau Coedwig
Y Comisiwn Coedwigaeth
Coed y Cymoedd
Resolfen
Castell-nedd
SA11 4DR

Ffôn: 0300 068 0229
E-bost: forestwatch@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb


Canllawiau ar ymdrin â throsedd coetiroedd (PDF)
----------------

Pan sefydlodd PC Andrew Scourfield Gwarchod Coedwig yn ardal Castell nedd Port Talbot fe ofynnodd i ysgolion lleol i gynllunio logo.

Derbyniodd dros 160 o geisiadau, gyda’r logo buddugol (uchod) wedi ei gynllunio gan Laura Thomas o Ysgol Gyfun Dyffryn ym Margam.

Safleoedd defnyddiol