Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Prosiect Tai Fforddiadwy
 

USES FOR TIMBER IN THE BUILDING  "Ein blaenoriaeth am dai yw sicrhau fod pawb yn cael cyfle i fyw mewn cartref gweddus pa un ai ar werth neu rent, yn y gymuned maent am fyw ynddi." - Carwyn Jones, Gweinidog ACCh, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn gynnar yn 2006 fe ofynnodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru i Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i ymchwilio fewn i botensial adeiladu tai fforddiadwy ar dir a rheolwyd gan CCC.

Yn dilyn asesiad o ystâd CCC fe ddynodwyd nifer o safleoedd ar draws Cymru a allai fod yn addas. Drwy weithio gydag Awdurdodau Lleol sydd wedi mynegi eu cefnogaeth i’r prosiect hyd yma mae CCC wedi penderfynu canolbwyntio ar ddwy ardal benodol yn y lle cyntaf, un yng Ngheinws ar llall yn Ninas Mawddwy.

HOUSE CONSTRUCTION USING TIMBER
Fe wahoddwyd CCC i fod yn rhan o’r Grŵp Llywio (o dan arweinyddiaeth Cyfarwyddwr Adran Chyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Cynulliad Cenedlaethol) er mwyn hwyluso’r broses o edrych ar fecanwaith ar gyfer dosbarthiad tir o dan berchnogaeth y Cynulliad fel safleoedd tai fforddiadwy.

Gomisiynodd CCC Sefydliad Ymchwil Adeiladau i ddatblygu Fframwaith Asesiad (pdf, 1285kb, 51 tudalen), fydd yn caniatáu i ni fesur a chofnodi llwyddiant elfennau enghreifftiol pob prosiect ac fe fydd yn rhan o’u cyfraniad i’r Grŵp Llywio.


Cyn bo hir fe fydd y prosiect wedi cyrraedd y cam (gynnar yn 2007) lle gall graddfa amser realistig gael ei gadarnhau ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy yng Ngheinws a Dinas Mawddwy.

 

Tai Gwledig Fforddiadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n Cael ei Rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru - Canllawiau Datblygu (pdf, 475kb, 5 tudalen).

 



Safleoedd defnyddiol


to DirectGov