Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Coedwigoedd a Dŵr
 

DIPPERProsiect: Mae ardal blaen Hafren wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau nawdd o £331,000 o Amcan 2 Dwyrain Cymru a Rhaglen Drosiannol Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd.
Fe fydd yn:

  • Cyfrannu i ostyngiad asideiddio nentydd sydd yn cyflenwi’r Afon Hafren, drwy gael gwared â choed conwydd o lannau’r afon.
  • Creu cynefinoedd gwlypdir newydd ar gyfer rhywogaethau fel dyfrgwn, trochwyr, glas y dorlan a llygod y dŵr.
  • Gweithio gyda ffermwyr i annog dulliau ffermio cynaliadwy
  • Cael gwared ag atalfeydd synthetig a osodwyd yn silfa eogiaid dalgylchoedd Efyrnwy a blaen Hafren.
  • Gwella magwraeth ac ailstocio eogiaid yn neorfa Clywedog.
  • Gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yn nalgylchoedd Efyrnwy er mwyn lleihau taenu llygredd, er enghraifft drwy osod ffensys ar hyd glannau’r afon i gadw anifeiliaid ymaith.
  • Gwella rhannau o Lwybr Hafren (taith hirbell traws-cenedlaethol).
  • Cynllunio, argraffu a dosbarthu ffurflenni a byrddau dehongli dwyieithog i rannau o Lwybr Hafren sydd yn mynd drwy Bowys.


Volunteers working on phase 2 of the Severn Natural Assets Project in Hafren forest.Lleoliad
: Parthau uchaf Afon Hafren ac Afon Efyrnwy, Coedwig Hafren, Ardal Goedwig Coed y Gororau.

Pam: Nod y prosiect yw sicrhau fod parthau uchaf Afon Hafren ac Afon Efyrnwy a chynefinoedd cysylltiedig yn iach, cynhyrchiol ac amrywiol fiolegol. Fe fydd yn darparu adnodd naturiol cynaliadwy, gwerthfawr fydd yn denu twristiaid ac yn helpu i wella’r economi lleol.

Pwy: Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Cyngor Sir Powys, Severn Trent Water Ltd., Grŵp Ymgynghori Ffermio a Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Cefn Gwald Cymru, Clwb Pysgota Llanidloes, a’r Canolfan Ecoleg a Hydroleg.


European logo

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov