Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coedwigoedd Tonna Bank ac Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot

Golyga'r prosiect yma gwelliannau a dehongliadau o ddau goetir gerllaw ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: Tonna Bank, sydd wrth ymyl Camlas Castell-nedd yng nghanol coedwigoedd Tonna ac Aberdulais, rhan o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhaeadr Aberdulais. Mae'r prosiect yn un o amryw o brosiectau cyflenwol sydd yn hyrwyddo'r ardal yma yn Nyffryn Nedd fel canolbwynt i'r gymuned leol ac ymwelwyr.

Nod y prosiect yw gwella a dehongli'r ddau safle er budd mwynderau a bioamrywiaeth, hybu mynediad deallusol a materol a darparu cyfleoedd am hamdden, hyfforddi, gweithgareddau ysgolion a gweithredu cymunedol. Amcanion y prosiect yw paratoi cynlluniau ( gan gynnwys Rheolaeth Coetir, Rheolaeth ffin, Rheoli a Dadansoddiad Dŵr) a gwneud ychwanegiadau ymarferol yn ôl cynlluniau a baratowyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Cadwraeth Camlesi Nedd a Tennant, Ffrindiau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Groundwork Pen-y-bont -ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

Grant a ddyfarnwyd: £150,000

Grŵp Cynigion: Tonna Community Council


Manylion Cysylltu: Mr Peter White, Clerc Cyngor Cymuned Tonna
32 Heol Caredig
Tonna
Castell-nedd
SA11 3LQ

Ffôn: 01639 644886

E-bost: peterwhite111@aol.com

Coetiroedd I Bawb logo