Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Prosiect Diogelwch Ymwelwyr

John Ireland, Visitor Safety Co-ordinatorMae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio ar brosiect dwy flynedd i godi safonau diogelwch ymwelwyr ar draws yr holl ystâd goedwigaeth ym Mhrydain.

O ganlyniad i’r cynnydd aruthrol ym mhoblogrwydd beicio mynydd, mae’r Comisiwn wedi nodi hwn fel maes gweithredu allweddol.

Mae’r Comisiwn yn frwd dros leihau peryglon diangen sydd ynghlwm â beicio mynydd ond hefyd i gadw’r elfen o hwyl a’r her o feicio ar hyd y llwybrau ar frig yr agenda.

John Ireland, beiciwr mynydd drwy gydol ei oes, sydd wedi ymgymryd â’r rôl o arwain y prosiect diogelwch ymwelwyr dwy flynedd. Mae John yn siarad yn rheolaidd â beicwyr mynydd wrth ei swydd ac mae wedi cael llawer o ymholiadau ynghylch ei waith.

Dyma atebion i rai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml:

Sut ydych chi’n mynd i’r afael â’r prosiect?
Y brif dasg ar y cychwyn yw gwerthuso’r holl safonau cyfredol a osodwyd ar gyfer cyfleusterau beicio mynydd ar draws yr holl ystâd goedwigaeth genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys adeiladu’r llwybrau, arwyddion, dehongli a’r modd rydym ni’n rheoli safleoedd beicio.

Pam bod y prosiect yn angenrheidiol?
Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y bobl mynd ar gefn beic. Mae hyn yn newyddion gwych, ond mae hefyd yn golygu ein bod yn gorfod cymryd golwg o’r newydd ar y modd rydym ni’n rheoli’r cyfleusterau beicio sydd ar gael.

A wnaethoch chi gychwyn y prosiect oherwydd fod mwy o ddamweiniau?
Fel unrhyw chwaraeon antur arall sydd ag elfen o risg, os oes mwy o bobl yn beicio mynydd yna rydych chi’n sicr o weld cynnydd mewn damweiniau. Gan i ni weld cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr i’r holl ystâd goedwigaeth genedlaethol, nawr yw’r amser i ymgymryd ag adolygiad diogelwch trylwyr. Mae’r adolygiad wedi bod yn yr arfaeth ers tua dwy flynedd bellach ac felly nid ymateb sydyn ydyw.

Beth felly fydd yn newid?
Wel, bydd y beicio yn parhau i fod yr un mor heriol ag erioed a byddwn ni’n parhau i adeiladu llwybrau mae pobl eisiau reidio arnyn nhw. Gwelaf y prif newidiadau yn y dyfodol fel cael gwell safonau wrth adeiladu llwybrau - gan gynnwys mannau llamu a llwybrau coed - a chael gwell gwybodaeth hefyd fel bod y beicwyr yn gwybod yn union beth sydd o’u blaenau. Rydym ni eisiau lleihau risgiau twp ond gan gadwr’ her.

A fydd llwybrau’n cael eu gwneud yn rhy hawdd?
Na fyddan - ein bwriad yw lleihau’r risg gan gadw’r llwybrau’n rhai gwych. Fel enghreifftiau o’r modd y gallwn ni wella diogelwch heb ddifetha’r reid: defnyddio arwynebau grip yn hytrach na weiren cwt ieir, darparu ffyrdd haws, amgen o gwmpas darnau anodd, gosod arwyddion gwell ar gychwyn ac ar ben y daith neu arwyddion yn rhybuddio am fannau anodd. Yn ogystal, mae adeiladu llwybrau gwell a mwy cynaliadwy nad ydynt yn cael eu difetha ar ôl defnydd trwm yn gwneud llwybr yn saffach ar unwaith.

A ydych chi’n ymweld â’r safleoedd neu ydych chi’n gwneud y gwaith o’r tu ôl i ddesg i gyd?
Ni fyddai dim modd gwneud y gwaith o’r tu ôl i ddesg – rydw i allan yn ymweld â safleoedd drwy’r amser. Dyma’r unig ffordd i weld yr hyn sy’n digwydd ar draws Prydain. Rydw i eisoes wedi ymweld â llawer o safleoedd ac rwy’n disgwyl y byddaf yn mynd o le i le’n gyson. Er enghraifft, ymysg y safleoedd rydw i wedi ymweld â nhw mae Llwybrau Haldon yn ne Lloegr i weld llwybrau teulu a llwybrau am ddim, safle beicio am i lawr yr allt yng Nghwm Carn yng Nghymru a’r Llwybr Tŵr Tân ger Lochgilphead yng Ngorllewin Argyll.

A fyddwch chi’n cau llwybrau na fyddant yn cyrraedd y safon?
Fy ngwaith i yw helpu i ddatblygu beicio yn hytrach na’i rwystro. Rydym ni wedi gweithio’n galed erioed i sicrhau bod ein llwybrau eisoes o safon uchel ac fe gynhelir asesiad risg llawn cyn eu hagor, felly ni ddylid cau’r un llwybr. Fodd bynnag, os down ni o hyd i lwybrau nad ydynt yn ddiogel ac a adeiladwyd heb ddim ymgynghori â’r Comisiwn dylid cymryd camau gweithredol.

Ai edrych ar lwybrau beicio mynydd eithafol yn unig fyddwch chi?
Fy mwriad yw edrych ar holl faes beicio mynydd, yn llwybrau ysgafn teuluol, llwybrau canolig, beicio’r lan ogleddol, parciau llamu, neu hyd yn oed yn ddolennau sgiliau. Efallai bod beicwyr yn tybio mai ar lwybrau eithafol yn unig y ceir damweinau ond nid yw hynny’n wir o gwbl.

A fydd eich canllawiau ar gael i eraill y tu allan i’r Comisiwn Coedwigaeth?
Byddant – yn bendant. Disgwyliaf y bydd ein canllawiau’n cael eu defnyddio gan lawer o grwpiau allanol a chyrff chwaraeon yma a thramor.

Felly, pa ganllawiau rydych chi’n bwriadu eu cynhyrchu a phryd fyddan nhw’n barod?
Y bwriad erbyn diwedd y prosiect dwy flynedd yw cynnig cyngor ar adeiladu llwybrau ac ar arferion gorau mewn pedwar prif faes:

  1. Canllawiau cyffredinol ar bolisi’r Comisiwn Coedwigaeth ar feicio mynydd, cyngor ar arwyddion, mannau gwybodaeth, graddio llwybrau a’r defnydd o arwyddion rhybuddio;
  2. Rheoli prosiect o lwybrau cyfuchlinell, llamu baw, y defnydd o ddeunyddiau, graddiant, systemau sychu’r tir;
  3. Sut i adeiladu nodweddion technegol allan o garreg a choed;
  4. Y ffordd orau o gyfleu’r negeseuon diogelwch trwy ddefnyddio gwahanol fathau o ddehongli; a
  5. Gwneud y mwyaf o ddodrefn ar y llwybrau e.e. seddi, lloches a llefydd i barcio’r beic.

Os hoffech chi gysylltu â John anfonwch e-bost ato ar john.ireland@forestry.gsi.gov.uk