Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Prosiect Coetiroedd Gogledd Gŵyr, Abertawe

Disgrifiad – Menter ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Neuadd Gymunedol Llanrhidian Cyf, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Dinas a Sir Abertawe yw Prosiect Coetiroedd Gogledd Gŵyr.  Bydd y prosiect yn dod â nifer o goetiroedd presennol mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Gŵyr at ei gilydd dan yr un rhaglen reoli a datblygu er mwyn hyrwyddo mynediad i ymwelwyr ac ehangu eu profiad ac er mwyn datblygu potensial economaidd y coetiroedd hyn yn lleol.  Bydd hefyd yn creu coetir cymunedol newydd ym Mhen-clawdd, sy’n ardal led wledig. Bydd y prosiect yn gwella cyflwr ac yn helpu i sicrhau parhad tymor-hir pump o goetiroedd presennol yng ngogledd Gŵyr sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn ogystal â nifer o goetiroedd eraill sydd mewn dwylo preifat ar hyn o bryd drwy greu cytundebau prydles/rheoli, a bydd yn creu coetir cymunedol newydd ar dir cyhoeddus ym Mhen-clawdd.

Bydd gwaith yn cael ei wneud i wella’r cyfleusterau mynediad presennol ac i greu cyfleusterau mynediad newydd at ac o fewn y coetiroedd hyn, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer yr anabl.  Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau hamdden a dehongli coetir newydd a fydd yn apelio at drigolion lleol ac ymwelwyr, yn enwedig teuluoedd.

Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i bobl, yn enwedig i blant, nad ydynt fel rheol yn gallu cael mynediad rhwydd i gefn gwlad i ddysgu am ac uniaethu ag amgylchedd gwledig bioamrywiol, ac yn darparu cyfleoedd i unigolion, grwpiau a theuluoedd fwynhau coetiroedd a gwneud defnydd ohonynt er lles eu hiechyd.  Caiff y coetiroedd hyn eu cysylltu â’i gilydd drwy ddefnyddio’r llwybrau cerdded a beicio presennol (er enghraifft, Llwybr Beicio Gogledd Gŵyr), yn ogystal â chludiant cyhoeddus, er mwyn hwyluso mynediad a chreu cymaint o gyfleoedd hamdden ag sydd bosibl.

Grant a ddyfarnwyd:       £200,000.00

Grŵp Cynnig:                 Ymddiriedolaeth Neuadd Gymunedol Llanrhidian Cyf

Manylion Cysylltu:         Mr Paul Jenkins

Ffôn:                             01792 390828

E-bost:                          p.jenkins954@btinternet.com 

Coetiroedd I Bawb logo