Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Cylch Gorchwyl
 

Aelodaeth

 

  • Bydd y Bartneriaeth Gyswllt yn cynnwys unigolion sy’n cynrychioli ac sydd mewn cysylltiad â buddiannau penodol.  Bydd y Bartneriaeth fel corff yn cynrychioli’r ystod o fuddiannau a safbwyntiau sy’n berthnasol i’w nod.
  • Bydd yr aelodau yn ymrwymo i gyfrannu at waith y Bartneriaeth mewn ffordd gydweithiol a byddant yn darparu gwybodaeth mor llawn â phosibl i hwyluso’r broses o ymgynghori a gweithio â phobl.
  • Bydd yr aelodau bob amser yn gweithredu gyda pharch at y broses gyswllt ac at yr unigolion a chyrff sy’n rhan ohoni a byddant yn gweithio’n adeiladol o fewn fframwaith sefydledig y Bartneriaeth Gyswllt.
  • Bydd aelodau’n ymuno â’r Bartneriaeth drwy eu henwebu eu hunain, neu drwy gael eu henwebu gan grŵp neu gymuned, neu drwy wahoddiad.
  • Y Bartneriaeth fydd yn gyfrifol am wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch yr aelodaeth, gan gynnwys sicrhau bod cydbwysedd yr aelodaeth yn gywir a bod maint y grŵp yn hydrin fel y gall symud ymlaen â’r broses o ymgynghori a gweithio â phobl.

Amlder y Cyfarfodydd

 

·        Bydd y Bartneriaeth yn penderfynu ar amlder ei chyfarfodydd a phryd y’u cynhelir er mwyn cyflawni ei phwrpas a’i dyletswyddau penodol.

 

Pwrpas y Bartneriaeth

 

·        Cydgysylltu gweithgareddau ar draws yr ystod o fuddiannau yn yr ardal er mwyn cyflawni’r nod o ‘weithio gyda phawb sydd â diddordeb mewn dylunio, rheoli a defnyddio Ardal Coedwig a Thywyn Niwbwrch i wella ei gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn y tymor hir.’   

 

Dyletswyddau penodol

 

·        Penderfynu sut orau i reoli’r broses o weithio â phobl fel bod pob barn yn cael sylw a bod pawb yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen.

·        Rhoi cyngor ar sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen a dwyn ynghyd ganlyniadau unrhyw grwpiau o’r fath, gan benderfynu sut i ddatrys unrhyw dyndra neu anhawster a nodi meysydd lle mae pawb yn gytûn yn ogystal â deall anghytundebau.

·        Sicrhau bod cynigion, safbwyntiau a ffrwyth y broses yn cael eu cyflwyno i’r cyrff atebol.

·        Hwyluso cyfleoedd ar gyfer cydweithio a gweithio ar y cyd a all godi yn ystod y broses.

·        Adolygu’n barhaus y gwahanol rannau o’r broses i sicrhau bod y nod yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac, yn arbennig, i wneud cyfraniadau amserol ac ystyriol at y broses cynllunio ac ail-ddylunio coedwig.

·        Sicrhau y glynir at y cylch gorchwyl y cytunwyd arno a rhoi cyngor ar yr hyn i’w wneud os na chydymffurfir ag ef.

 

 

Cyfrifoldeb cyllidebol

 

Nid oes gan y Bartneriaeth Gyswllt gyllideb.

 

Cyfathrebu gan y Bartneriaeth Gyswllt

 

  • Bydd y Bartneriaeth yn cadw cofnod o’i chyfarfodydd a bydd yn gyfrifol am roi gwybod am gynnydd i’r cyhoedd, y buddiannau a gynrychiolir gan yr aelodau, y grwpiau gorchwyl a gorffen, a’r cyrff atebol drwy’r dulliau a ganlyn:

-         Gwefan y Comisiwn Coedwigaeth

-         Newyddlen y pentref

-         Ffolderi gwybodaeth mewn swyddfeydd post

-         Cysylltu uniongyrchol rhwng yr aelodau a’r rheiny a gynrychiolant

-         Cyfarfodydd cyhoeddus

 

            A thrwy unrhyw ddulliau priodol eraill a nodir gan y Bartneriaeth Gyswllt.

 

  • Bydd nodiadau pob cyfarfod o’r Bartneriaeth Gyswllt yn cael eu rhoi ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth o fewn wythnos ar ôl iddynt gael eu hanfon i’r aelodau.

Terfynau Awdurdod

 

  • Y Bartneriaeth fydd yn gyfrifol am drafod a chymeradwyo unrhyw gynigion a ddaw o’r grwpiau gorchwyl a gorffen a bydd, yn ei thro, yn gyfrifol am argymell y cynigion hyn i’r cyrff atebol.  Gall unrhyw gynigion fod yn destun gweithdrefnau asesu statudol ffurfiol pellach.

Disgyblaeth

 

  • Gall achosion o ymddygiad amhriodol gael eu hadrodd ar unrhyw adeg i’r Hwylusydd a fydd yn cymryd un o’r camau canlynol, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb neu sensitifrwydd y digwyddiad:

            -     rhoi gwybod i’r aelod(au) dan sylw.  Mewn achosion o’r fath, gall yr aelod(au) dan sylw ddewis newid eu hymddygiad neu adael y Bartneriaeth;

            -     dwyn y mater i sylw’r Bartneriaeth Gyswllt a cheisio ei ddatrys drwy gydsyniad neu arweiniad.

 

Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov