Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Grant Gwella Coetiroedd – Coedwriaeth Amgylcheddol

Sylwer fod y cynllun yma yn dod i ben yn Rhagfyr 2010

Mae Grant Gwella Coetir CGG ar gael er mwyn cefnogi amrywiaeth o waith coetir a fwriadwyd i ddarparu gwaith amgylcheddol a masnachol.  Mae graddfeydd grantiau ar gael yn cynnig 25%, 50% neu 75% tuag at gostau cynnal gwaith o’r math hwn yn ôl lleoliad y gwaith a’r math o waith sydd i’w wneud.  Mae’r daenlen ar waelod y dudalen hon yn rhoi manylion graddau’r grant canrannol sydd ar gael ar gyfer amrywiol weithgareddau.

Mae’r gwaith amgylcheddol a masnachol canlynol yn gymwys i dderbyn grant gwella coetir: 

  • Gwaith isadeiledd yn cynnwys adeiladu ffyrdd, llwybrau, mannau prosesu a mannau trosglwyddo.   
  • Gwaith cynaeafu yn cynnwys teneuo aneconomaidd a chwymp-glirio a chlirio coed a gwympwyd gan wynt. 
  • Gweithio i sicrhau adfywiad naturiol, fel ysgraffinio, casglu hadau, hadu uniongyrchol, plannu o dan goed neu blannu mewn bylchau.
  • Rheoli rhywogaethau ymyrrol neu estron. (Gellir parhau i wneud ceisiadau am grantiau CGG ar gyfer rheolaeth Phytophthora ramorum a kernoviae yn rhannau o Dde Cymru a Dyffryn Conwy yng Ngogledd Orllewin Cymru hyd at 31ain Awst 2009).
  • Isadeiledd rheoli ceirw.
  • Rheoli gwiwerod.
  • Ffensio ffiniau gan gynnwys ffensio rhag da byw neu atgyweirio ffiniau traddodiadol.
  • Gwaith ôl sefydlu gan gynnwys gwaredu cysgodfeydd coed, clirio ac ail-fylchu, malurio a thocio.
  • Gwaith Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB), er enghraifft gwaith yn ymwneud â rhywogaethau CGB lle bo arolwg ecolegol wedi nodi bod angen cynnal gwaith cyffelyb. 
  • Diogelu nodweddion archeolegol.
  • Gwaith y mae angen ei wneud er mwyn dod â choetiroedd i fyny i’r safonau amgylcheddol cyfredol, fel gwaith ar lannau afonydd neu ar y dirwedd. 

Gwneud cais
Mae angen cwblhau cynllun rheoli a chynllun gweithrediadau a’u cymeradwyo gan CCC a pherchennog y coetir ar gyfer pob cais am grantiau CGG  cyn y gellir hawlio grant a’i dalu.  Mae’r cynllun rheoli yn nodi gwaith grant sy’n derbyn cymorth a’r flwyddyn y mae’n rhaid gwneud y cais.  Ni allwch ond gyflwyno cais am grant ar ôl cwblhau’r gwaith. 

Ariannu o ffynonellau eraill
Os ydych yn bwriadu cael arian oddi wrth gyfundrefnau neu bartneriaid eraill ar gyfer eich gwaith arfaethedig yna mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ynglŷn â hyn.  Bydd arnom angen manylion rôl y partner(iaid) sydd yn eich ariannu yn eich prosiect, a faint o arian neu gymorth arall y byddant yn eu cynnig.

Tudalennau cysylltiedig