Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Grant Gwella Coetiroedd – Manteision Cymdeithasol
 

Mae Grant Gwella Coetir CGG ar gael er mwyn cefnogi amrywiaeth o waith a fwriadwyd i ddarparu mwy o fanteision cymdeithasol i’r cyhoedd oddi wrth goetiroedd, er enghraifft, drwy ddarparu mynediad gwell neu wedi’i wella i goetiroedd, hamdden a chyfleusterau eraill a fydd o fudd i’r cyhoedd.  Mae’r daenlen ar waelod y dudalen hon yn rhoi manylion am raddfeydd canrannol grantiau sydd ar gael ar gyfer amrywiol weithgareddau. 

Mae hyd at 75% o grant ar gael tuag at y gost o gynnal gwaith lles cymdeithasol coetir mewn coetiroedd gyda lefel uchel o fynediad trwy ganiatâd, neu ar gyfer coetir wedi ei lleoli mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, darparu ysgol goedwig neu waith lles cymdeithasol mewn coetiroedd sy’n rhan o fenter gymunedol.

Mae grant hyd at 50% ar gael ar gyfer yr holl waith lles cymdeithasol mewn coetiroedd â lefel isel o fynediad trwy ganiatâd  ac ar gyfer darparu cyfleusterau addysgol (nid ysgolion coedwig).

Mae rhestr o’r gweithgareddau lles cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer grant gwella coetir fel a ganlyn: 

  • Tasgau rheoli iechyd a diogelwch coetiroedd gan gynnwys arolwg o goed ac asesu risg.
  • Cynnig cyfleusterau hamdden anffurfiol, er enghraifft, llwybrau, llwybrau beic, cyfeirbwyntiau, taflenni, dehongli, parcio, ac isadeileddau eraill fel toiledau.  Os ydych yn darparu cyfleusterau toiled mae’n rhaid i’r rhain fodloni’r safonau perthnasol a chynnwys darpariaeth ar gyfer pobl anabl.  
  • Gwneud cyfleusterau hamdden coetir masnachol yn agored i’r cyhoedd.
  • Darparu cyfleusterau addysgol.
  • Gwaith harddu fel, malurio, tocio, teneuo o amgylch y llwybrau a’r safleoedd picnic, a rheoli neu waredu tipio anghyfreithlon.

Gwneud cais
Mae angen cwblhau cynllun rheoli a chynllun gweithrediadau a’u cymeradwyo gan CCC a pherchennog y coetir ar gyfer pob cais am grantiau CGG  cyn y gellir hawlio grant a’i dalu.  Mae’r cynllun rheoli yn nodi gwaith grant sy’n derbyn cymorth a’r flwyddyn y mae’n rhaid gwneud y cais.  Ni allwch ond cyflwyno cais am grant ar ôl cwblhau’r gwaith. 

Ariannu o ffynonellau eraill
Os ydych yn bwriadu cael arian oddi wrth gyfundrefnau neu bartneriaid eraill ar gyfer eich gwaith arfaethedig yna mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ynglŷn â hyn.  Bydd arnom angen manylion rôl y partner(iaid) sydd yn eich ariannu yn eich prosiect, a faint o arian neu gymorth arall y byddant yn eu cynnig.


Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov