Grant Paratoi Cynllun Rheoli
Mae pob cymorth grant o dan gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru’n seiliedig ar waith a gytunwyd mewn cynllun rheoli a baratowyd gan gynlluniwr rheoli ar ran perchennog coetir. Mae cynllunwyr rheoli yn gyfrifol am eich cynghori ynglŷn ag anghenion a manteision cynllun CGG a pherthnasu’r rhain i’ch amcanion o ran y coetir. Maent hefyd yn cyflwyno cais CGG ar eich rhan drwy ein system grantiau a thrwyddedau ar-lein. Mae paratoi cynllun rheoli yn galw am sgiliau arbenigol a phrofiad o goedwigaeth a rheoli coetiroedd. Mae cynllunwyr rheoli sydd â’r sgiliau hyn i’w cael ar ein rhestr o gynllunwyr rheoli cymwys. Mae’n ofynnol i bob cynlluniwr rheoli lynu wrth ein Cod Ymarfer. Bydd angen i chi benodi cynlluniwr rheoli oddi ar ein rhestr gymeradwy ni os ydych yn dymuno gwneud cais CGG. Mae’r grant paratoi cynllun rheoli yn cyfrannu at gost cyflogi cynlluniwr wrth reoli a gall gyfrannu hefyd tuag at gostau a geir os oes angen gwasanaeth aseswr arbenigol. Arbenigwyr sy’n gallu cynnal y math o waith asesu arbenigol yw aseswyr arbenigol, er enghraifft, asesiad o ecoleg coetir. Bydd y cynlluniwr rheoli a’r CCC yn penderfynu gyda’i gilydd a oes angen penodi aseswyr arbenigol yn ystod paratoi cynllun rheoli. Fel yn achos cynllunwyr rheoli, mae’n rhaid i aseswyr arbenigol gael eu cymeradwyo gennym ni a glynu wrth ein Cod Ymarfer. Does dim angen i chi wneud cais am y grant paratoi cynllun rheoli eich hun; bydd eich cynlluniwr rheoli yn gwneud hyn yn rhan o’ch cais CGG. Mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar y gwir gost o baratoi cynllun ar gyfer coetir penodol ac ni allwn warantu y bydd y grant yn talu’r gost yn llawn. Pan fydd cynlluniwr rheoli yn gweld y bydd cynllun rheoli’n costio mwy i’w baratoi na’r cymorth grant sydd ar gael, mae angen iddynt ddwyn eich sylw at hyn. Rhaid i chi wedyn benderfynu a ydych am dalu’r gwahaniaeth neu dynnu nôl. Pryd telir y grant? Telir y grant ar ôl i CCC gymeradwyo’r cynllun rheoli a chynllun y gweithrediadau AC ar ôl i chi gymeradwyo’r cynllun rheoli, llofnodi contract y cynllun gweithrediadau ac unrhyw drwyddedau cwympo cysylltiedig. Nid oes taliadau yn y cyfamser. Dylech nodi ymhle ac i bwy y telir y grant paratoi cynllun rheoli. Gwerth y grantiau Mae’r grant lawn y byddwn yn ei dalu am baratoi cynllun rheoli yn cynnwys nifer o daliadau am waith cynllunwyr rheoli a thaliadau am waith aseswyr arbenigol fel a amlinellwyd yn y tablau yn y ddogfen Graddfeydd Talu ar waelod y dudalen. Tâl diswyddo Mae cais CGG yn broses sy’n cael ei gyflwyno’n raddol ac sy’n gorffen gyda pharatoi terfynol ar y cynllun rheoli a’r cynllun gweithrediadau y cytunwyd arnynt gan berchennog y coetir a’r CCC. Mae rhan o’r broses hon yn cynnwys paratoi cynllun sylfaenol cychwynnol sy’n gosod amcanion ar gyfer rhan nesaf y broses. Os nad ydych yn gallu cytuno â thelerau ac amodau’r CCC fel y’u gosodir yn adroddiad y cynllun sylfaenol yna bydd y broses o wneud cais yn gorffen ac NI fydd cynllun rheoli’n cael ei baratoi. Mewn achosion fel hyn rydym yn talu ffi diswyddo yn uniongyrchol i’r cynlluniwr rheoli OS yw adroddiad y cynllun sylfaenol yn bodloni safonau CCC, AC os yw’r cynlluniwr rheoli wedi gwneud ymdrech resymol i ddatrys eich pryderon. Rhestrir y taliadau mewn tabl yn y ddogfen Graddfeydd Talu. Taliadau Atgyfnerthu Cydnabyddwn ei bod yn cymryd amser i gynllunwyr rheoli ddysgu sgiliau newydd er mwyn defnyddio ein gwasanaeth newydd Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein i lenwi’r ceisiadau CGG. Gan ystyried hyn telir taliadau atgyfnerthu i gynllunwyr rheoli a gymeradwywyd gan CCC. Mae uchafswm hyd at £2,000 am bob cynlluniwr rheoli ar gael i’w dalu yn ystod yn 12 mis cyntaf ar ôl i ni gymeradwyo cynlluniwr. Bob tro mae cynlluniwr rheoli yn cyflwyno cynllun rheoli sydd wedi ei gwblhau’n foddhaol byddwn yn gwneud taliad atgyfnerthu i’r cynlluniwr rheoli sy’n cyfateb i werth taliadau cynlluniwr rheoli yn y grant paratoi cynllun rheoli. Mae’r tabl yn nogfen y Graddfeydd Talu yn amlinellu enghraifft o gynlluniwr rheoli sydd wedi cyflwyno pedwar cynllun rheoli a gafodd eu cymeradwyo yn llwyddiannus yn ystod y 12 mis yn dilyn eu penod i’n rhestr o gynllunwyr rheoli cymwys. Sylwer nad oes taliadau atgyfnerthu’n cael eu rhoi i aseswyr arbenigol.
Grant Paratoi Cynllun Reoli – Graddfeydd Talu (Adobe Acrobat™ PDF - 455k)
|