Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n ynghlwm â rhaglenni wedi'u hariannu gan yr UE sydd yn helpu rhanbarthau Ewrop ffurfio partneriaethau i gydweithio ar brosiectau cyffredinol. Drwy rannu gwybodaeth a phrofiad, mae'r partneriaethau yma'n caniatáu i'r rhanbarthau ymglymedig i ddatblygu atebion newydd i heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Gall y hypergysylltiadau canlynol eich arwain i'r gwefannau prosiect unigol
Prosiect Ewropeaidd INTERREG IVC yw FUTUREforest sydd yn edrych ar sut mae coed a choedwigoedd yn addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer lleihau'r effaith. Mae'n bartneriaeth ryngranbarthol sy'n rhannu syniadau ar sut y gallai coedwigoedd Ewrop addasu i newid yn yr hinsawdd drwy ddefnyddio syniadau diweddaraf, cyfrannu at atafaeliad carbon a gostwng y risg achoswyd gan newid yn yr hinsawdd megis llifogydd, sychder, tân ac erydiad pridd. Maent yn edrych yn arbennig ar sut i addasu coedwigoedd i gynnal eu gwytnwch, sut gall coedwigoedd helpu cymdeithas i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a sut y gall goed a phren gwneud mwy na dim ond cloi carbon i ffwrdd. Prosiect Iwerddon - Cymru Interreg 4A sy'n asesu sut y bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn dylanwadu ar y difrod achosir i'n coed a'n coedwigoedd gan blâu, rhai sydd yma ar hyn o bryd ac eraill allai fod wedi cael eu cario yma drwy fasnachu rhyngwladol yw IMPACT - 'Rheolaeth Integredig dros Blâu Coedwig i Ymdrin â Thueddiadau Hinsawdd'.Fe fydd yn ymchwilio pa un a fydd y bygythiadau hyn yn cynyddu, sut i ddatblygu systemau rhagfynegiad, monitro ac adnabyddiaeth well ac yn bwysicach fyth, y ffyrdd gorau o ddefnyddio'r arfau a ddarparwyd gan natur i ymladd â'r bygythiadau. Mae'r prosiect yn rhedeg am dair blynedd hyd at 31 Rhagfyr 2012.
Prosiectau wedi cau
Robinwood
Prosiect Ewropeaidd oedd hwn, a oedd yn rhedeg o fis Hydref 2004 hyd fis Mehefin 2008, ac roedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn un o’r partneriaid. Roedd yn edrych ar sut y gall coetiroedd ddarparu swyddi newydd drwy gynhyrchu incwm ychwanegol ar gyfer busnesau mewn cymunedau gwledig ar draws Ewrop. Er bod y prosiect bellach wedi dod i ben, mae’r wybodaeth ar y wefan yn ein helpu i ddeall nod y prosiect o ‘Adfywio ardaloedd gwledig drwy ddatblygiad cynaliadwy gan ddefnyddio datblygiad coedwigaeth integredig’.
Sicrhau Gwerth Ychwanegol ar gyfer Coed yn Ewrop (Gaining Added Value for Timber in Europe) - Prosiect Ewropeaidd a oedd yn rhedeg rhwng mis Gorffennaf 2004 a mis Rhagfyr 2007, ac a oedd yn cael ei arwain gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Bu’n edrych ar ffyrdd o wneud mwy o ddefnydd o bren ar gyfer adeiladu, ac o greu marchnadoedd newydd ac ychwanegu gwerth. Er bod y prosiect bellach wedi dod i ben, mae gwefan GATE yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys adroddiadau am yr holl ddigwyddiadau, llyfrgelloedd ffotograffig a thechnegol helaeth, astudiaethau achos a chyfarwyddiadur rhanddeiliaid Ewrop gyfan.

