Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Cod Ymarfer i Yrrwyr Cerbydau ar holl Goetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru

Hyfforddiant

  • Mae angen trwydded gyrru cerbyd ar holl Goetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eithrio’r llwybrau sydd wedi eu dynodi a’u harwyddo yn Nyfnant ger y Trallwng a heolydd y goedwig a gorfforir yn Llwybrau Crychan ger
    Llanymddyfri lle ceir polisi mynediad agored i yrwyr cerbyd. Mae gennych hawl cyfreithlon hefyd i yrru ar Gilffordd Agored i bob Trafnidiaeth (HABT) neu Gilffordd Gyfyngedig.
  • Er mwyn cael trwydded gyrru cerbyd cysylltwch â’ch Swyddfa Ardal Goedwig leol neu’ch Rheolwr Dosbarth Lleol neu ffôn: 0845 604 0845.
  • Os dymunwch yrru ar Goetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru heblaw am yr ardal ar eich trwydded, cysylltwch â’r Swyddfa Ardal Goedwig berthnasol neu’r Rheolwr Dosbarth Lleol neu ffôn: 0845 604 0845.
  • Cyfyngwch eich gyrru i heolydd coedwig neu lwybrau gyrru cerbydau sydd wedi eu dynodi a’u harwyddo.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill yn y goedwig a bod yn gyfeillgar bob tro.
  • Cofiwch eich bod yn debygol o gyfarfod â defnyddwyr eraill yn gyrru gwahanol fathau o gerbydau ar lwybrau’r goedwig.
  • Dilynwch God y Goedwig.
  • Rhowch wybod am ddamweiniau, am achosion lle o’r braidd na chafwyd damwain ac am rwystrau i Swyddfa’r Ardal goedwig neu Reolwr Dosbarth Lleol yr ardal lle digwyddodd hyn neu ffôn: 0845 604 0845.
  • Talwch sylw i bob arwydd o rybudd a chadw at eu cyfarwyddiadau.
  • Peidiwch â gyrru yn gynt na thuthio ar unrhyw adeg.
  • Am resymau Iechyd a Diogelwch, dylid parcio cerbydau a chlymu ceffylau mewn mannau sydd wedi eu dynodi yn unig, ond nid ar safleoedd picnic, gan fod amrywiaeth o wahanol grwpiau’n defnyddio’r rhain.
  • Gadewch fannau parcio a phyrth yn lân ac yn daclus.Parciwch mewn mannau parcio faniau ceffylau sydd wedi eu dynodi pan fônt ar gael a pharcio’n synhwyrol er mwyn gadael cymaint o le ag y bo modd i ddefnyddwyr eraill. Cytunir ar fannau parcio ar ôl rhoi hawl gyrru cerbyd.
  • Cofiwch y gall fod gan ddefnyddwyr eraill lwybrau wedi eu dynodi yn yr ardal yr ydych yn ei defnyddio - gwnewch yn siwˆ r yn gyntaf os oes amheuaeth.


Cyfarwyddyd

  • Dilynwch ganllawiau Dyletswydd Gofal ac Atal Damweiniau Cymdeithas Yrru Prydain.
  • Cariwch ffôn symudol rhag ofn argyfwng (cofiwch fod y derbyniad yn gyfyngedig neu’n absennol mewn rhai ardaloedd).
  • Dywedwch wrth rywun lle’r ydych yn mynd a pha mor hir y disgwyliwch fod allan.
  • Edrychwch ar wefan CC Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau sydd ar gael.
  • Edrychwch ar wefan CCC am gaeadau cyfredol ac yn y dyfodol yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
  • Gwisgwch ddillad uchel eu hamlygrwydd er mwyn i eraill allu eich gweld.


Diwygiwyd Mehefin 2007.


British Driving Society logo

Safleoedd defnyddiol