|
Asesiad effaith amgylcheddol
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweinyddu Rheoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithgareddau pedwar “prosiect coedwigaeth". Sef: - Coedwigo – plannu coetiroedd newydd
- Datgoedwigo – cwympo coed er mwyn gwneud defnydd arall o’r tir
- Ffyrdd drwy’r coedwigoedd
- Chwareli yn y coedwigoedd
Cael ein barn ni am y cynnig Yn ôl y rheoliadau hyn, mae’n rhaid i ni ystyried a fydd y gwaith a fwriedir ar gyfer unrhyw un o’r prosiectau hyn, sydd ag arwynebedd yn fwy na’r trothwy a nodir yn y rheoliadau, yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Os mai dyma fydd yr achos, rhaid i’r cynigydd wneud cais am gydsyniad i wneud y gwaith. Rhaid i’r cais am gydsyniad gynnwys Datganiad Amgylcheddol. Os yw arwynebedd eich prosiect yn fwy na’r trothwy rheoliadol, gallwch gael ein Barn ynghylch a oes angen ein cydsyniad trwy ddefnyddio’r ffurflen Penderfyniad. Ar y llaw arall, os byddwch yn gwneud cais am grant neu drwydded i gwympo coed byddwn yn gwneud y penderfyniad yn awtomatig bryd hynny ar sail y wybodaeth honno.
Cosbau Os byddwch yn gwneud gwaith a fyddai wedi bod angen ein cydsyniad neu eich bod wedi torri amodau cydsyniad blaenorol a roddwyd, yna gallwn roi Rhybudd Gorfodi a all ofyn i chi wneud gwaith cywirol. Os na fyddwch yn gweithredu telerau’r Rhybudd Gorfodi, yna o dan Reoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, gall y byddwch yn euog o drosedd.
Asesu Effaith Prosiectau Coedwigaeth ar yr Amgylchedd (472k - pdf) Sut mae paratoi Datganiad Amgylcheddol (635k - pdf) Ffurflen Benderfyniad (73k - pdf)
|

Tudalennau cysylltiedig
|
 |
 |