Telir grantiau ar yr amod bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r contract. Gall yr ymgeisydd neu asiant awdurdodedig hawlio a/neu dderbyn grant. Rhoddir manylion y sawl sy’n hawlio a’r sawl sy’n talu yn y contract a gymeradwywyd.
Gwneud hawliad
- Cofiwch hawlio’r grant o fewn y flwyddyn ariannol y cytunwyd arni.
- Cwblhewch ffurflen WGS-FWPS 3 i hawlio grant. Sicrhewch fod yr hawliwr a enwir yn y contract yn llofnodi’r hawliad am grant.
- Llenwch y ffurflen Hawlio Grant Ailstocio Interim (gweler isod) i hawlio atodiadau trosiannol ar gyfer ailblannu. Mae’r ffurflen hon ar gael fel ffeil pdf y gallwch ei llwytho i lawr neu fel taenlen Excel.
- Llenwch adran FWPS y ffurflen WGS-FWPS 3 i hawlio’r taliadau am y pum mlynedd cyntaf o dan y Cynllun Premiwm Coetir Fferm (FWPS).
- Amgaewch fap gyda’r ffurflen sy’n dangos ffin ardal y cais ac anfonwch y ddau i’r swyddfa ardal leol.
- Yr ymgeisydd sy’n gyfan gwbl gyfrifol am sicrhau bod yr hawliad yn gywir.
Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn anfon Gwahoddiad i Hawlio ar gyfer grantiau a delir bob blwyddyn. Bydd Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn anfon ffurflenni ar gyfer hawlio’r rhandaliadau FWPS dilynol.
Gwneud newid
- Peidiwch â dechrau unrhyw waith hyd nes y cymeradwyir unrhyw newid.
- Llenwch ffurflen WGS-FWPS 4 i roi manylion unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
- Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i’r swyddfa Warchodaeth briodol. Llenwch adran berthnasol y ffurflen newid ar gyfer newidiadau i’r Cynllun Premiwm Coetir Fferm. (Bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn ceisio cymeradwyaeth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad cyn gwneud unrhyw newidiadau i waith neu dir a gofrestrwyd o dan y Cynllun Premiwm Coetir Fferm.)
- Gall fod gofyn i ymgeiswyr lofnodi contract diwygiedig o dan y Cynllun Grant Coetir a Datganiadau ac Ymgymeriad newydd o dan y Cynllun Premiwm Coetir Fferm
Newid perchenogaeth
Os ydych yn bwriadu gwerthu neu drosglwyddo eiddo sy’n rhan o gynllun grant, neu os ydych wedi gwneud hynny, mae’n hanfodol i chi, y perchennog, neu eich cyfreithiwr roi gwybod i’r swyddfa Comisiwn Coedwigaeth Cymru leol mor fuan â phosibl. Bydd hyn yn rhoi amser i ni ddod i gysylltiad â chi a’r perchennog newydd i roi cyngor am y contract Cynllun Grant Coetir. Gall cyfrifoldeb dros ad-dalu’r grant gael ei drosglwyddo i berchennog newydd drwy lenwi ffurflen trosglwyddo rhwymedigaethau.

Ffurflen Hawlio Grant Ailstocio Interim (198k - pdf)
Ffurflen Hawlio Grant Ailstocio Interim( 725k - MS Excel Worksheet - contains Macros)
Llyfryn Ymgeiswyr WGS (272k - pdf)
Llyfryn Cynllun Premiwm Coetir Fferm (146k - pdf)
WGS-FWPS 3– Ffurflen: Hawliad (81k - pdf)
WGS-FWPS 4– Ffurflen: Newidiadau (65k - pdf)
FWPS 8– Ffurflen: Cais Olynydd (66k - pdf)
WGS 9– Ffurflen: Cytundeb i Drosglwyddo Rhwymedigaethau (59k - pdf)
