
Mae cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (BWW) yn cynnig y cymhelliannau canlynol ar hyn o bryd:
- Grant Paratoi Cynllun Rheoli
Yn cynnig help â’r gost ar gyfer defnyddio Cynlluniwr Rheoli i baratoi adroddiad sylfaenol a Chynllun Rheoli fel rhan o gais CGG. - Grantiau Sefydlu Coetiroedd
Grantiau ar gyfer creu coetiroedd newydd. Mae rhai o'r grantiau a gyflwynir yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2012. - Grantiau Ailblannu
Ar gael ar gyfer ailblannu cnydau, coetiroedd cymysg a chynhenid. Mae graddfeydd uwch ar gael ar gyfer ailstocio yn rhan o waith cynnal Planhigfeydd ar Safleoedd Hen Goetiroedd. - Grant Gwella Coetiroedd – Amgylchedd Silvi
Grantiau i gynorthwyo â dod a’r coetir yn ôl o dan reolaeth ac i wella gwerth y coetir o ran cadwraeth. Mae rhai o'r grantiau a gyflwynir yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2012. Gellir parhau i wneud ceisiadau am grantiau CGG ar gyfer rheolaeth Phytophthora ramorium a kernoviae yn rhannau o Dde Cymru a Dyffryn Conwy yng Ngogledd Orllewin Cymru hyd at 31ain Awst 2009
- Grant Gwella Coetiroedd – Manteision Cymdeithasol
Grantiau ar gael ar gyfer darparu adnoddau hamdden ac addysgol a fydd o les ac i gynorthwyo â gwaith amwynder yn gyffredinol.
Defnyddiwch y cysylltiadau ar y chwith i ddod o hyd i wybodaeth fanylach am bob math o grantiau,
Coetiroedd Gwell i Gymru - Canllaw i Berchnogion Coetiroedd (954k - pdf)
