Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Coetiroedd Gwell i Gymru – Sut i wneud cais
 

Dim ond cynllunwyr rheolaeth, wedi eu cymeradwyo gan CC Cymru, all wneud ceisiadau CGG.  Gyda’ch caniatâd chi, fe fydd y cynlluniwr rheolaeth yn creu cynllun rheoli ar gyfer eich coetir chi.  Bydd hyn yn eich gwneud yn gymwys i hawlio cymorth ariannol ar gyfer y gwaith angenrheidiol.  

Cyfeirnod Cwsmer (CRN)
Cyn y gallwn gymeradwyo eich cynllun rheoli CGG a rhoi cytundeb grant i chi, bydd angen i chi roi Cyfeirnod Cwsmer i ni a roddwyd gan Adran Taliadau Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae hyn oherwydd bod grantiau CGG yn cael eu hariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 ac yn dod o dan nifer o reolau newydd.  Un o’r rheolau hyn yw’r rheidrwydd i dderbynwyr grantiau sy’n cael eu hariannu drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru gael Cyfeirnod Cwsmer unigryw .  Bydd pob Cyfeirnod Cwsmer yn gysylltiedig â chyfres o fanylion y talai lle y bydd pob taliad grant yn cael ei anfon. 

Os ydych yn ffermwr sy’n derbyn y taliad fferm sengl neu os ydych yn cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol, fel Tir Gofal, bydd gennych Gyfeirnod Cwsmer yn barod.  (Mae’r rhif yn dechrau gyda’r llythyren A ac yna ceir saith rhif: e.e. A0044267).  Am fwy o fanylion, ewch i Llythyr RhCC i ymgeiswyr /CRN letter to applicants - (PDF Adobe Acrobat™ - 143k)

Er mwyn gwneud cais am grant CGG bydd rhaid i chi wneud y canlynol:

Cam 1 – Cyflogi gwasanaeth cynlluniwr rheolaeth  sydd wedi ei gymeradwyo gan CCC.

Os oes gennych reolwr coetir neu asiant yn barod, efallai ei fod yn un o’r cynllunwyr rheolaeth sydd wedi eu cymeradwyo gennym.  Os nad yw, bydd angen i chi benodi un oddi ar ein rhestr ni.

Rheolwyr ac asiantau coetiroedd yw cynllunwyr rheolaeth y mae ganddynt y wybodaeth arbenigol angenrheidiol a’r sgiliau TG angenrheidiol i baratoi cynllun rheoli CGG gan ddefnyddio ein gwasanaeth grantiau a thrwyddedau ar-lein.  Gallant hefyd roi cyngor i chi am y grantiau CGG sydd ar gael, gan gynnwys grantiau i dalu am eu gwasanaeth hwy.

Efallai y byddwch am gyflogi cynlluniwr rheolaeth dim ond i baratoi cynllun rheoli CGG gan gyflogi eich asiant presennol neu reolwr coetir i gynnal y gwaith o’i weithredu, neu ar y llaw arall gall y cynlluniwr rheolaeth wneud y gwaith hwn i chi hefyd.

Cam 2 – Mae’r cynlluniwr rheolaeth yn cydweithio â chi ar gynigion coetir ac yn dechrau gweithio ar eich cais am grant CGG er mwyn creu a chyflwyno cynllun sylfaenol.

Rhoddir grantiau CGG ar ôl llwyddo i greu cynllun rheoli sydd wedi ei gymeradwyo gan CCC a pherchennog y coetir.  Mae creu cais am grant CGG yn broses raddol, gyda phob cam yn bwydo mwy o wybodaeth i mewn i’r cynllun rheoli. 

Mae rhan gyntaf y broses hon yn cynnwys creu cynllun sylfaenol i weld p’un ai yw’r cynigion cychwynnol ar gyfer y coetir yn ymarferol bosibl.  Mae’r cynllun sylfaenol yn mynd i’r afael â materion fel:

  • Canfod a gwirio p’un ai yw’r coetir yn cynnwys henebion  neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SODdGA).  Fel rhan o’r broses hon rydym yn gofyn am gael gwybodaeth oddi wrth sefydliadau eraill.  
  • Amcanion allweddol – gosod allan eich cynlluniau ar gyfer rheoli eich coetir chi. 
  • Materion allweddol - ffactorau neu bwyntiau o ddiddordeb sylweddol.
  • Rhanddeiliaid a’r rheiny i ymgynghori â hwy - nodi eraill sydd, efallai, â diddordeb yn eich cynigion ynglŷn â’r coetir. (gweler Gweithdrefnau Ymgynghori CGG).
  • Manylion am faint o’r Grant Paratoi Cynllun Rheoli sydd ar gael ac yn nodi faint fydd y cynlluniwr rheolaeth yn ei godi a pha gostau fydd y grant hwn yn eu talu. 

Cam 3 – Penderfynu a ydych am symud ymlaen at y cam nesaf neu beidio.

Dyma’r adeg i benderfynu a ydych am symud ymlaen â’r cais neu beidio.  Os nad ydych am fynd ymlaen rydym yn cynnig tâl diswyddo i’r cynlluniwr rheolaeth.  Does dim rheidrwydd arnoch chi i wneud unrhyw beth arall.  

Os penderfynwch fynd ymlaen bydd rhaid i chi fynd i gytundeb â’r cynlluniwr rheolaeth.  Mae gennym rai cymalau sydd raid eu cynnwys ond gallwch ychwanegu hefyd eich trefniadau penodol eich hun gan gynnwys i bwy yr hoffech i ni dalu’r grant paratoi cynllun rheoli.

Cam 4 – Cymeradwyo ac asesu’r cynllun rheoli.

Mae’r cynlluniwr rheolaeth yn symud ymlaen drwy weddill y broses gan fwydo mwy o fanylion i mewn i’r cynllun rheoli.  Yn ystod y cyfnod hwn bydd eich cynlluniwr rheolaeth yn cysylltu â chi er mwyn sicrhau bod eich cynigion chi’n cael eu cynrychioli’r gywir, ac yn cysylltu ag eraill sydd â diddordeb dilys yn eich cynigion gwaith.  Pan fo fersiwn terfynol y cynllun rheolaeth yn barod mae’n rhaid i chi ei gymeradwyo CYN iddo gael ei gyflwyno i ni i’w ystyried.

Wedyn rydym yn asesu’r cynllun rheoli a gyflwynwyd ar gyfer cydymffurfiaeth â safonau SCSCDU a rheoliadau eraill coedwigaeth.  Rydym yn gwirio costau  ac yn sicrhau bod y cynigion gwaith yn rhoi gwerth da am gymorth grant ac yn glynu at arferion gwaith  cadarn.  Os oes angen rydym hefyd yn cadarnhau unrhyw weithrediadau neu amodau rydym yn eu hystyried yn orfodol.  Os ydym yn cymeradwyo eich cais rydym yn llofnodi’r cynllun rheoli ac mae eich cynlluniwr rheolaeth yn ei roi i chi i’w lofnodi. 

Cam 5 – Llofnodi’r cynllun rheoli a chyflwyno’r cynllun gweithrediadau.

Os ydych yn fodlon â’r cynllun rheoli ar ôl iddo gael ei asesu mae’n rhaid i chi ei lofnodi a rhoi gwybod i ni pwy sydd i dderbyn y grant paratoi cynllun rheoli.  Yn olaf byddwn yn cyflwyno cytundeb cynllun gweithrediadau sy’n gosod allan yr holl weithrediadau, grantiau a thrwyddedau ar gyfer y pum mlynedd nesaf yr ydym wedi cytuno iddynt fel y gallwch weithredu’r cynllun rheoli.  

Does dim angen i chi ailysgrifennu’r cynllun rheoli ar ddiwedd pum mlynedd, ond mae’n rhaid i chi adolygu a diweddaru’r cynllun gweithrediadau.  Gallwch gael mwy o fanylion ynglŷn â’r broses hon yn y Canllaw i Berchnogion Coetiroedd.


Ewch i Lyfrgell Gyfeirio CGG >>


Safleoedd defnyddiol


to DirectGov