Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Glastir Woods Banner

Grant Creu Coetir Glastir 0300 068 0300 bww.ts@forestry.gsi.gov.uk

Ydych chi’n ystyried plannu coed ar eich tir?

Os ydych, efallai y gallai cynllun Creu Coetiroedd Glastir eich helpu.

Nod y cynllun yw helpu i wireddu’r addewid a wnaed gan Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth goetiroedd, Coetiroedd i Gymru, i ddarparu mwy o arwynebedd o goed.

Mae’r cynllun yn darparu:

  • cymorth ariannol i greu coetiroedd brodorol a choetiroedd cymysg newydd
  • cyngor a chymorth arbenigol yn rhad ac am ddim.

Darllenwch ymlaen i gael gwybod rhagor am gynllun Creu Coetiroedd Glastir.


Pwy all wneud cais am grant Creu Coetiroedd Glastir?

Tree planting using vole and rabbit guards, Hicks lodgeMae pob tirfeddiannwr yng Nghymru sydd â mwy na 0.25 hectar o dir yn gymwys i wneud cais o dan y cynllun – does dim rhaid ichi fod yn ffermwr i wneud cais, a does dim rhaid ichi fod yng nghynllun Glastir yn barod.

Gweler rheolau Cynllun Creu Coetiroedd Glastir am ragor o fanylion.


Beth yw cyfraddau grant Creu Coetiroedd Glastir?

Mae tair rhan i grant Creu Coetiroedd Glastir:

  • Grant sefydlu sy’n cael ei dalu dros dair blynedd
  • Grant ffensio sy’n cynnwys lwfans ar gyfer giatiau a chamfeydd/sticlau.
  • Taliad colli incwm (sy’n cael ei alw’n Bremiwm Creu Coetiroedd Glastir).

Gweler cyfraddau grant Creu Coetiroedd Glastir am ragor o fanylion.


Pwy sy’n rhoi cynllun grant Creu Coetiroedd Glastir ar waith?

View from Machen side towards CwmcarnCynllun Llywodraeth Cymru i reoli tir yn gynaliadwy yw Glastir; mae’n cynnwys pum elfen, ac un o’r rheini yw’r Elfen Coetiroedd.

Mae’r Elfen Coetiroedd yn cynnwys:

  • y cynllun Creu Coetiroedd (sy’n cael ei roi ar waith gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru *)
  • y cynllun Rheoli Coetiroedd (sy’n cael ei roi ar waith gan dîm Glastir Llywodraeth Cymru)

Mae’r Elfen Coetiroedd yn rhan o Glastir sy’n sefyll ar ei thraed ei hun – os ydych eisoes wedi gwneud cais am elfen Cymru Gyfan Glastir, gallwch ddal i wneud cais am grant Creu Coetiroedd Glastir.

Gweler y Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o fanylion am sut mae’r Elfen Coetiroedd yn ffitio o fewn Glastir neu lawrlwythwch lyfryn Elfen Coetiroedd Glastir oddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

* Bydd cynllun Creu Coetiroedd Glastir yn dal i gael ei redeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ac, wedi hynny, gan Gyfoeth Naturiol Cymru (sy’n dod i rym ar 1af Ebrill 2013) ar ran Llywodraeth Cymru tan 1 Ionawr 2014.


 Sut ydw i’n gwneud cais am grant Creu Coetiroedd Glastir?

Planting broadleaves on a new native woodland site. Rhaid i bob cais gael ei wneud gan Swyddog Creu Coetiroedd Glastir ar ran y tirfeddiannwr – mae’r gwasanaeth hwn am ddim i’r ymgeisydd.

Ymgynghorwyr coetir yw Swyddogion Creu Coetiroedd Glastir sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i ddarparu cyngor a chyflwyno ceisiadau.

Bydd y Swyddogion Creu Coetiroedd yn:

  • gwneud yn siŵr fod y tir mewn ardal sydd wedi cael ei dynodi’n un addas i blannu arni
  • cynnal ymweliad safle
  • egluro rheolau’r cynllun
  • datblygu cynllun plannu i’r tirfeddiannwr ei gymeradwyo
  • cyflwyno cais am grant ar ran y tirfeddiannwr

Efallai hefyd y bydd rhai Swyddogion Creu Coetiroedd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol ar gost i ymgeiswyr, er enghraifft, dod o hyd i’r coed a’u cyflenwi.

Gallwch un ai ddewis Swyddog Creu Coetiroedd oddi ar y rhestr gymeradwy neu ofyn i’r Comisiwn Coedwigaeth neilltuo un ichi.


Beth ydw i’n ei wneud nesaf?

Cysylltwch â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i gael pecyn gwybodaeth neu i wneud cais.

  • E-bost: bww.ts@forestry.gsi.gov.uk
  • Ffôn: 0300 068 0300
  • Ysgrifennwch at: Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Clawdd Newydd, Rhuthun LL15 2NL

Sylwch: os nad oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) oddi wrth Lywodraeth Cymru bydd angen ichi gael un a chofrestru’ch tir cyn y gellir cymeradwyo’ch cais am grant Creu Coetiroedd Glastir. Gweler y Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth.

Why Plant Trees on my farm thumbnail and link to document

 

 Mae llyfryn newydd Coetiroedd fferm newydd yn dangos sut gall plannu coed gyfrannu at fusnes fferm.  Lawrlwythwch y PDF neu cysylltwch â ni am gopi (gweler y manylion cyswllt isod).

 

 

 


 

Beth os nad Glastir yw’r cynllun iawn i mi?

Mae grantiau Glastir ar gael i blannu darnau o dir sy’n 0.25 hectar o leiaf.

Os ydych chi eisiau plannu darn llai na hyn o dir, efallai y gallai Coed Cadw gynnig cymorth ichi drwy eu cynllun pecyn coed bach.