
Mae cwrdd â thargedau penodol ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn rhan allweddol o bolisi’r Cynulliad Cenedlaethol, a bydd coetiroedd y genedl yn gwneud cyfraniad pwysig at ofynion ynni’r DU yn y dyfodol.
O dan polisi Llywodraeth y DU, rhaid i 10% o’r cyflenwad trydan ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010. I gyrraedd y nod heriol hwn, bydd angen cymysgedd o dechnolegau ynni adnewyddadwy a mesurau arbed ynni hen a newydd.
Mae CC Cymru wedi ymrwymo i helpu’r Cynulliad i gyflawni ei amcanion ym maes ynni adnewyddadwy.
Tanwydd adnewyddadwy rhad yw coed y gellir cael cyflenwad newydd ohono’n barhaus o goetiroedd lleol. Gall defnyddio coed fel tanwydd, yn lle glo neu olew, gyfrannu at dargedau cenedlaethol i gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy a thargedau byd-eang i leihau allyriannau carbon.
Gall ffermydd gwynt hefyd wneud cyfraniad pwysig at ymdrechion y Cynulliad i gynyddu ynni adnewyddadwy.
![]() Ynni gwynt | ![]() Ynni pren |


