Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Sawna Iechyd

Woodland Sauna and picnic table. Llanymd...Wedi’i leoli mewn llecyn diarffordd a darluniadwy yng nghanol coedwig Pen Arthur ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin mae’r sawna coetir a elwir yn Banya 17 yn darparu profiad sawna Slafig traddodiadol go iawn. Ysbrydoliaeth John Williams y cyn Rheolwr Ardal Lleol oedd y sawna ar ôl iddo ymweld â sawnau gwledig Rwsia.

Y nod cyffredinol yw hybu ffordd iach o fyw ymhlith y boblogaeth leol. Felly gall grwpiau cymunedol - yn enwedig y rhai hynny sydd yn cwympo o fewn targed poblogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dros hybu ffordd iach o fyw megis henoed, mamau a phlant bach a grwpiau cadw’n heini dros 50 oed ddefnyddio’r sawna.

Mae’r cyfleuster, sydd yn gallu dal wyth o bobl yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan aelodau’r cyhoedd sydd yn gorfod cwblhau holiadur iechyd cyn ei ddefnyddio.

Fe roddwyd sylw i’r sawna yn y Sunday Telegraph a rhaglen ‘You and Yours’ Radio 4.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag archebu lle yn y sawna cysylltwch â Rhanbarth Coedwig Llanymddyfri ar 0845 604 0845 os gwelwch yn dda.