Mae’r grŵp yn awyddus i agor y coetir at ddefnydd y gymuned ac mae ganddo gynlluniau i adeiladu Canolfan Ddysgu Goetirol o fewn y coetir, wedi’i dylunio a’i hadeiladu gan dîm o oedolion ag anawsterau dysgu a’r staff sy’n gefn iddynt. Byddai’r ganolfan hefyd yn darparu sylfaen adnoddau allweddol ar gyfer datblygu a chyflwyno’r Rhaglen Ysgol Goedwig ym Mhen-y-bont ar Ogwr a châi ei defnyddio’n helaeth gan ysgolion, grwpiau cymunedol/ieuenctid ac oedolion ag anawsterau dysgu o ardaloedd difreintiedig i hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o goetiroedd a’r amgylchedd naturiol.
Grant a Roddwyd: £40,000
Grŵp a Gynigiodd: Grŵp Llywio Coetir ar gyfer Dysgu Rockwool
Manylion Cysylltu: Oliver Leonard
Swyddog Prosiect
drwy law Rockwool Limited
Pen-coed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 6NY
Ffôn: 01446 402925
e-bost: oliver@gka.org.uk

