Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Prosiect Coetiroedd y Gilfach-goch

Safle’r prosiect yw hen lofa sydd wedi cael ei hadennill a’i hadfer yn lle agored i’r cyhoedd gyda phlanhigfeydd coed. Mae’r safle yn rhan ganolog y cwm, wedi’i amgáu gan briffordd a choridor afon sydd heb ei ddatblygu. Mae llawer o blanhigfeydd sefydledig, er eu bod wedi cael eu hesgeuluso. Ceir ardaloedd o laswellt garw, glaswelltir agored gwlyb a brwyn drwy’r safle. Ceir hefyd lwybrau niferus sy’n cysylltu’r cymunedau o gwmpas ac yn dilyn y coridor afon, ond mae llawer o’r rhain wedi erydu lle mae’r draeniad yn wael ac mae eraill wedi’u cau neu wedi’u cyfyngu gan y coed.

Nod y prosiect adfywio hwn yw datblygu a gwella’r ardal a’i throi’n lle gwyrdd hygyrch drwy uwchraddio’r rhwydwaith presennol o lwybrau, gwella’r draeniad, gosod arwyddion, creu ffiniau, teneuo’r coed, a phlannu coed a llwyni newydd. Caiff pont newydd ei chodi ar draws yr afon a bydd sbwriel a hen geir yn cael eu cludo i ffwrdd.

Grant a Roddwyd: £150,000

Grŵp a Gynigiodd: Cymdeithas Gymuned ac Adloniant y Gilfach-goch

Manylion Cysylltu: Richard Walters
Swyddog Datblygu Ieuenctid a Chymuned
Cymdeithas Gymuned ac Adloniant y Gilfach-goch
Cambrian Avenue
Y Gilfach-goch
Rhondda Cynon Taf
CF39 8TG
Ffôn: 01443 675004
e-bost: ggca@btinternet.com

 
Coetiroedd I Bawb logo