Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coed Hendrefoilan

Canolbwynt y datblygiadau arfaethedig yw hen warchodfa natur, yr ardal o’i chwmpas a maes chwarae cyfagos, y cyfan o fewn tiroedd Ysgol Gynradd Hendrefoilan. Mae nifer o wahanol gynefinoedd yma, megis gwlyptir, coetir a gweirglodd, ond mae’r rhain yn ‘wyllt’ a heb eu rheoli ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith y bwriedir ei wneud yn cynnwys rheoli’r warchodfa natur ac estyn y coetir drwy blannu coed brodorol, teneuo a choedlannu, lleihau rhywogaethau anfrodorol, uwchraddio ac estyn y llwybrau, a ffensio. Darperir llwyfan trochi ger y pwll, a llecyn eistedd, fel y gellir gwneud mwy o ddefnydd o’r warchodfa a’i hymgorffori ym mywyd beunyddiol yr ysgol a’r gymuned leol.

Grant a Roddwyd: £8,000

Grŵp a Gynigiodd: Cymdeithas Rhieni Athrawon Hendrefoilan

Manylion Cysylltu: Bronwen Jones
Cydgysylltydd Eco-ysgolion
drwy law Ysgol Gynradd Hendrefoilan
Dunvant Road
Dynfant
Abertawe
SA2 7LF
Ffôn: 01792 290223
e-bost: Hendrefoilan.School@swansea-edunet.gov.uk

 
Coetiroedd I Bawb logo