Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coed Ceirw

Yn ardal o goed o fewn tiroedd Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, mae gan y safle sawl gwahanol gynefin naturiol, gan gynnwys coetir, nant, pwll a glaswelltir.

Nid oes gan y gymuned leol fynediad i ardaloedd o goetir cyhoeddus at bwrpas gweithgareddau hamdden, ac nid oes ond ychydig o fannau chwarae bach iawn ar y stadau o dai. Gan fod yr ysgol yn ganolbwynt i weithgareddau ysgol a chymunedol, mae’r ysgol yn bwriadu gwella a chreu lle gwyrdd sy’n hygyrch i bawb.

Bwriedir estyn yr ardal bresennol o goed drwy blannu coed brodorol, teneuo a chael gwared â rhywogaethau anfrodorol, gosod ffens ar hyd y ffin, creu llwybrau i ganiatáu mynediad i bawb, a gosod llwyfan trochi ger y pwll a seddi fel y gall yr ysgol a’r gymuned gael mwy o fwynhad a gwneud mwy o ddefnydd o’r coetir.

Grant a Roddwyd: £10,000

 Grŵp a Gynigiodd: Cymdeithas Cartref ac Ysgol Cwmrhydyceirw

Manylion Cysylltu: Kate Tumelty
Cydgysylltydd Eco-Ysgolion
drwy law Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw
Measygwernen Road
Treforys
Abertawe
SA6 6LL
Ffôn: 01792 771524
e-bost: Cwmrhydyceirw.PrimarySchool@Swansea.gov.uk
Coetiroedd I Bawb logo