Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coed Cymunedol Abercynffig

Coetir llydanddail heb ei reoli yw Coed Abercynffig ar gwr de-ddwyreiniol tref Abercynffig. Nid oes mynediad ffurfiol i’r gymuned leol ac mae’r safle wedi dioddef o weithgareddau megis torri coed yn anghyfreithlon, gollwng sbwriel domestig a gardd, a llechfeddiannu tir ar hyd y ffin.

Pwrpas y prosiect yw troi’r coed yn goetir cymunedol ac adnodd hamdden newydd drwy reoli’r coetir mewn ffordd gynaliadwy a darparu mynediad i’r cyhoedd. Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys creu rhwydwaith o lwybrau sy’n addas i bobl anabl, ymgymryd â gwaith rheoli coetir megis teneuo, torri lle mae angen, ailblannu, a chael gwared â rhywogaethau anfrodorol. Bwriedir hefyd wella’r maes parcio presennol a chreu llwybr i gysylltu’r maes parcio a’r ysgol gynradd leol â’r coetir, creu lle troi i fysiau mini/ardal barcio i’r anabl, a chlirio’r holl sbwriel sydd ar y safle.

Grant a Roddwyd: £75,000

Grŵp a Gynigiodd: Cyngor Cymuned Uwch y Castellnewydd

Manylion Cysylltu: Alex Marshall
Swyddog Prosiectau Coetir
drwy law 9 Plas Tŷ Mawr
Pen-y-fai
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4NH
Ffôn: 01656 667938
e-bost: alex.marshall@virgin.net

 
Coetiroedd I Bawb logo