Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coedwig Gymunedol Longwood

Coetir rhannol naturiol, hynafol sy’n eiddo i’r Cynulliad Cenedlaethol, gyda chymysgedd o blanhigfeydd conwydd a llydanddail, mae’n gorwedd gerllaw llinell o gaerau mynydd yr oes Efydd, ac fe’i defnyddir yn rheolaidd gan y cyhoedd yn ymweld â’r rhai ac â’r coedydd. Mae’r grŵp newydd hwn yn cynnwys pobl sy’n byw yn y goedwig ac o’i chwmpas, ac eraill sydd â diddordeb yn y coetir. Byddent yn hoffi i’r coetir fod yn haws i fynd ato ac yn fwy hwylus i ddefnyddwyr yn y cymunedau o gwmpas y coetir.

Mae’r grŵp yn bwriadu sefydlu Ysgol Goedwig i’w gwneud yn bosibl i ysgolion lleol ddefnyddio’r coetir at ddibenion addysgol a hefyd yn gobeithio darparu sesiynau dysgu rheolaidd i annog pobl ifanc i ddeall mwy am yr amgylchedd a datblygu sgiliau coetir. Gwneir hefyd waith ar reoli’r coetir, sefydlu meithrinfa goed i ailgyflwyno coed llydanddail, gwella’r llwybrau ceffylau a’r llwybrau troed presennol, llunio llwybrau mynediad newydd, a darparu pwyntiau gwybodaeth a chyfleusterau ar gyfer yr holl ymwelwyr.

Y Grant a Ddyfarnwyd: £195,863

Y Grŵp a gyflwynodd y Cynnig: Coedwig Gymunedol Longwood Community Woodland Group

Y Manylion ar gyfer Cysylltu: Phillip Swain
Cadeirydd
Goetre Uchaf
Betws Bledrws
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8NP
Ffôn: 01570 493284  
Coetiroedd I Bawb logo