|
Cenhedlaethcoed
Cenhedlaethcoed yw menter coedwigaeth drefol newydd a ddatblygwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyda chynrychiolwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Awdurdod Datblygu Cymru a changhennau lleol cyrff amgylcheddol yn cynnwys Ymddiriedolaeth Prydain er Gwirfoddolwyr Cadwraeth ac Ymddiriedolaeth Tirwaith. Amcan y prosiect yw helpu i wella ardaloedd trefol drwy ddarparu cymorth ac arian ar gyfer cynlluniau rheoli a phlannu coed. Mae’r prosiect yn y lle cyntaf mewn cyfnod peilot ac yn gweithredu o fewn siroedd Sir Fflint a Wrecsam, sydd yn golygu nad ydym gwaetha’r modd yn medru cefnogi prosiectau eraill tu allan i’r ardaloedd yma ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu gweithredu ar draws Cymru os neu phan fydd cyllid wedi’i sicrhau.
Amcanion Cenhedlaethcoed yw: - Hyrwyddo gorchwyl coed a choetiroedd mewn adnewyddiad trefol a datblygiad cynaliadwy yng Nghymru, trwy gyflawni cynlluniau plannu coed o ansawdd uchel a reolir yn dda.
- Codi ymwybyddiaeth buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol coed a choetiroedd trefol.
- Darparu man cysyllt cyfunol ar gyfer pobl syddam blannu neu reoli coed yn y Gymru drefol.
- Ychwanegu gwerth at brosiectau ac adnoddau presennol sydd yn gysylltiedig â choed a choetiroedddd trwy gydweithrediad a phartneriaeth.
Pwy all wneud cais am nawdd?Yn ystod y cyfnod peilot gall unrhyw un sydd yn lleoledig yn Wrecsam a Sir Fflint wneud cais am nawdd, gan gynnwys busnesau preifat. Os ydych yn grŵp cymunedol mae’n rhaid i chi gael cyfansoddiad ysgrifenedig. Yn ystod cyfnod peilot, dim ond nifer cyfyngedig o brosiectau fydd yn bosibl i’w hariannu oherwydd nawdd cyfyngedig. Dylech siarad â’r Swyddog Prosiect er mwyn cael gwell syniad o p’un ai fydd eich prosiect yn gymwys neu beidio. Defnyddiwch y ddolenni i ddarganfod mwy am:- Am fwy o wybodaeth ymwelwch a'r tudalen wefan Cenhedlaethcoed os gwelwch yn dda.
|

Safleoedd defnyddiol
|
 |
 |