Mae Pwyllgor Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am:
- gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu a hyrwyddo polisi coedwigaeth sy’n bodloni anghenion Cymru
- rhoi cyfeiriad strategol i weithgareddau’r CC yng Nghymru er mwyn sicrhau bod strategaeth Coetiroedd i Gymru yn cael ei chyflawni.
Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn cefnogi CC Cymru i weithio ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid a chefnogi perchnogion coetiroedd a’r sector coedwigaeth ehangach yn y wlad i gyflawni strategaeth Coetiroedd i Gymru.
- nodi a dyrannu’r adnoddau sydd eu hangen i fodloni amcanion a monitro perfformiad yn erbyn amcanion cytûn.
Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn adolygu ac yn cymeradwyo’r cynllun corfforaethol. Bydd yn sicrhau stiwardiaeth briodol o asedau a defnyddio arian cyhoeddus.
Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn monitro perfformiad ariannol a pherfformiad arall yn rheolaidd ac yn cymeradwyo’r adroddiadau blynyddol ar gyfer CC Cymru.
- gosod targedau a rheoli perfformiad ar gyfer ystâd coetiroedd Llywodraeth y Cynulliad
- sicrhau bod adnoddau yn cael eu diogelu trwy systemau rheolaeth fewnol.
Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn cefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu, a fydd yn cael cyngor gan Bwyllgor Archwilio’r wlad, wrth sicrhau y caiff y busnes ei reoli’n effeithiol. Yn benodol, bydd yn sicrhau bod systemau ar waith fel bod Comisiynwyr yn ymwybodol o unrhyw faterion arwyddocaol a fyddai’n effeithio ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau mewn da bryd.
