Nid oedd y ceffylau Przewalski wedi rhodio ein coetiroedd yn rhydd ers Oes y Cerrig ac Oes yr Haearn, miliynau o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag yn 2003 fe brynodd y Comisiwn Coedwigaeth thri Cheffyl o Sŵ Fynyddig Cymru ym Mae Colwyn.
Fe roddwyd y ceffylau mewn coetgae 12 erw a enwebwyd fel Heneb Restredig gan y corff cadwraeth Cadw. Wnaeth hyn hi’n bosibl i’r ardal bwysig yma cael eu cynnal drwy bori, ac felly atal yr angen i ddefnyddio cemegau a cherbydau. Hefyd mae’n datrys y broblem o reoli prysg, ac felly’n helpu strwythur a bioamrywiaeth y llystyfiant.
Fe adeiladwyd platfform gwylio gyda phanel dehongli er mwyn galluogi ymwelwyr i wylio’r anifeiliaid unigryw yma yn eu hamgylchedd naturiol.

